BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 14 Ebrill, 2003, 18:48 GMT 19:48 UK
Cipio tre enedigol Saddam
Pobol yn chwilio am y peth lleiaf i'w ddwyn ar strydoedd Baghdad
Baghdad: Mwy o ddwyn wythnos yn ôl
Roedd lluoedd Prydain ac America nos Lun yn rheoli pob un o brif drefi Irac.

Roedd y frwydr fawr derfynol i fod yn Tikrit, tref enedigol Saddam Hussein ond, yn annisgwyl, doedd yna fawr o wrthwynebiad wrth i'r milwyr symud tua'r canol.

Wedi i marines America gipio Tikrit, dywedodd llefarydd ar ran lluoedd America yn Qatar fod meddiannu'r ddinas yn gam pwysig.

"Mae'r ymgyrch filwrol i gael gwared ar y regime yn tynnu at ei therfyn," meddai'r Brigadydd Vincent Brooks yn ei bencadllys yn Doha.

Mae'r rhyfel bron ar ben ond dim ond dechrau y mae her yr heddwch
Tony Blair, Prif Weinidog

Dywedodd y Pentagon fod dwy long awyrennau allan o dair yn gadael y Gwlff yr wythnos hon.

Yn raddol, mae trefn yn cael ei hadfer mewn dinasoedd fel Baghdad wedi dyddiau o ddwyn ac ysbeilio.

Roedd adroddiadau fod mwy na 2,000 o blismyn Iracaidd wedi mynd yn ôl i'w gwaith.

"Yn bendant, mae llai o ddwyn," meddai llefarydd ar ran y Brif Uned Reoli, y Capten Frank Thorpe.

Wrth annerch y Senedd ddydd Llun, cyfeiriodd y Prif Weinidog at y cynlluniau am ddyfodol Irac.

"Mae'r rhyfel bron ar ben," meddai Tony Blair "ond dim ond dechrau y mae her yr heddwch.

"Sicrhau fod Irac yn gallu sefyll ar ei thraed ei hun yw nod America a Phrydain," meddai.

Hwn oedd ei ddatganiad cynta i'r Senedd ers i regime Irac golli reolaeth ar y wlad.

Roedd y regime wedi colli rheolaeth ar y rhan fwya o'r wlad a mwyafrif y brodorion yn dathlu, meddai.

"Mae regime Irac wedi mynd ac mae Irac yn lle gwell."




GWYLIWCH A GWRANDEWCH
Nest Roberts, Newyddion
"Hwn yw'r arwydd cliria fod y rhyfel bron ar ben..."



HEFYD:
Americanwyr 'yn nhref Saddam'
13 Ebr 03  |  Newyddion
Protest yn erbyn y rhyfel
12 Ebr 03  |  Newyddion
Cwrdiaid yn gadael Kirkuk
12 Ebr 03  |  Newyddion
Aelodau Baath i ailadeiladu Irac
13 Ebr 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^