BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 14 Ebrill, 2003, 12:26 GMT 13:26 UK
Ymgyrchu i ddiogelu castell
Castell Aberteifi
Mae dyfodol Castell Aberteifi o dan drafodaeth
Mae perchnogion newydd un o gestyll mwyaf hanesyddol Cymru, er yn adfeilion gan fwyaf, wedi cychwyn ymgyrch i ddiogelu ei ddyfodol.

Ddydd Llun fe ddaeth Castell Aberteifi, sy'n dyddio o'r 12 ganrif, o dan berchnogaeth Cyngor Sir Ceredigion.

Rwan mae'r awdurdod yn edrych fel ar yr adeilad, cartref yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf 1176, fel eicon i ddenu twristiaid i'r dref.

Fe dalodd y Cyngor 500,000 am y castell a oedd wedi cael ei roi ar y farchnad ddwy flynedd yn l gan y perchennog oedrannus am 1m.

Fe dynnwyd tua 100,000 oddi ar y pris oherwydd dyledion.

Esgeulustod

Bwriad y Cyngor ydy penodi ymgynghorwyr yn ystod yr wythnosau nesaf i gynghori ar y mr o waith atgyweirio sydd ei angen ac edrych ar y posibiliadau ar gyfer dyfodol y castell.

Dros y blynyddoedd mae'r safle wedi dirywio yn sgil esgeulustod a bu'n rhaid diogelu wal ddeheuol y castell gan fariau metel.

Er hynny mae nifer o syniadau i ddenu twristiaid yn cael eu cysidro ar gyfer y castell unwaith y bydd wedi cael ei atgyweirio.

Dywedodd y Cyngor eu bod hefyd yn chwilio am gymorth gyda'r datblygiad.

Fe wnaeth y trigolion lleol gychwyn ymgyrch i ddiogelu'r castell rhag mynd yn adfeilion llwyr gyda dros 2,000 o bobol yn arwyddo deiseb, sydd wedi cael ei dderbyn a'i ystyried gan y Cyngor.




GWYLIWCH A GWRANDEWCH
Dai Lloyd Evans, Cadeirydd Cyngor Ceredigion
"Rhan bwysig o'n hetifeddiaeth"



HEFYD:
Castell Aberteifi: Ar werth
15 Ebr 03  |  Newyddion
Achub castell hynafol
03 Ebr 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^