Mae milwyr America yn nesau at Tikrit
|
Yn ôl arweinydd y cynghreiriaid yn Irac, mae lluoedd America yn Tikrit.
Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf, mae'r lluoedd yn wynebu gwrthwynediad chwyrn gan luoedd Irac yn ne'r dre.
"Fyswn i ddim yn dweud bod y rhyfel drosodd," meddai'r Cadfridog Tommy Franks mewn cyfweliad ar CNN, "ond mi ddywedai bod lluoedd America yn Tikrit rwan."
Yn gynharach dywedodd Franks, nad oedd yna ddim gwrthwynebiad yno.
Ddywedodd o ddim os oedd ei luoedd yn y canol ynteu ar y cyrion ac ni ddywedodd os oedd y lluoedd yn Tikrit wedi ildio.
Dywedodd newyddiadurwr na welson nhw fawr o drefn ar amddiffynfeydd yn y dref, ond bu raid iddyn nhw adael wedi i saethu ddechrau.
Credir y gall Saddam Hussein a'i uwchswyddogion fod yn Tikrit.
Tikrit yw'r unig ganolfan sylweddol yn Irac sydd ddim dan reolaeth y cynghreiriaid.
Yn ôl arbenigwyr, gall y dref yma weld y frwydr olaf am reolaeth Irac a diwedd ar Saddam a'i luoedd.
Bu lluoedd y cynghreiriaid yn ymosod ar y Gwarchodlu Gweriniaethol sy'n gwarchod y dref.
Bu i griw teledu CNN yrru i Tikrit, ac mae'n debyg bod Plaid Baath yn dal mewn grym yno.