BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 12 Ebrill, 2003, 15:42 GMT 16:42 UK
Protest yn erbyn y rhyfel
Protestwyr yn Hyde Park, Llundain 22 Mawrth
Roedd y trefnwyr wedi disgwyl torf o 250,000
Ddiwrnod cyn i redwyr lenwi strydoedd Llundain ar gyfer y Marathon blynyddol mae miloedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio yn y ddinas yn erbyn y rhyfel.

Ddydd Sadwrn gwelwyd miloedd o ymgyrchwyr heddwch yn gorymdeithio drwy Lundain yn erbyn y rhyfel sy'n dal i fynd yn ei flaen yn Irac.

Yn l mudiad Cynghrair Ildiwch y Rhyfel mae'r gwrthwynebiad cyhoeddus i'r rhyfel yn dal yr un mor gryf hynny er gwaetha dathliadau wrth i danciau America fynd i mewn i ddinasoedd a phrifddinas Irac, Baghdad.

Roedd y trefnwyr wedi gobeithio y byddai tua 250,000 o brotestwyr yn yr orymdaith ddydd Sadwrn, ond yn l Scotland Yard mae'r ffigwr o Hyde Park, lle oedd yr orymdaith yn dod i ben yn 20,000.

Ond dywedodd cyn gricedwr Pacistan, Imran Khan, oedd wedi ymuno gyda'r orymdaith bod y ffigyrau yn "amherthnasol".

"Does dim ots faint sy'n dod, mae'n bwysig ein bod yn cael eu cyfri fel protest," meddai.

Protestwyr Llundain 22 Mawrth 2003
Cafodd dau funud o dawelwch ei gynnal yn Sgwr y Senedd
Fe wnaeth cannoedd o wrthwynebwyr y rhyfel hefyd gynnal gorymdaith debyg yn Glasgow gan Cynghrair Yr Alban am Gyfiawnder nid Rhyfel.

Fe gychwynnodd yr orymdaith yn Llundain o orsafoedd rheilffyrdd Victoria a Waterloo ac fe ddilynwyd dwy brid ffordd drwy'r ddinas cyn ymuno gyda'i gilydd yn Sgwr y Senedd.

Yno cafwyd dau funud o dawelwch "er cof am y rhai a laddwyd yn y rhyfel".

Fe ofynnwyd i'r gorymdeithwyr ddod blodau, cardiau a beth bynnag yr oedden nhw'n teimlo oedd yn addas i'w gosod y tu allan i 10 Downing Street wrth iddyn nhw basio.

Yna o Sgwr y Senedd fe wnaeth y gwrthwynebwyr deithio drwy Sgwr Trafalgar, Haymarket a Piccadilly i rali yn Hyde Park.

Ymhlith y siaradwyr roedd yr Aelodau Seneddol Tam Dalyell a George Galloway. Mae'r ddau yn wynebu cael chwip y Blaid Lafur wedi ei cymryd oddi arnyn nhw oherwydd eu safiad yn erbyn y rhyfel.

Dyma'r drydedd rali enfawr i gael ei chynnal yn Llundain.

Cafodd ei threfnu gan Ildiwch y Rhyfel ar y cyd gyda Chymdeithas Moslemiaid Prydain a CND.

Ledled y byd cafwyd protestiadau hefyd mewn 40 o wledydd gan gynnwys Seland Newydd, Japan, De Korea, Yr Eidal, Groeg a Ffrainc.




HEFYD:
Cwrdiaid yn gadael Kirkuk
12 Ebr 03  |  Newyddion
Protestiadau yn Baghdad
12 Ebr 03  |  Newyddion
Milwr yn geni babi yn Irac
12 Ebr 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^