Protestwyr yng nghanol Baghdad am gael mwy o reolaeth yn y ddinas
|
Mae cannoedd i Iraciaid wedi bod yn protestio yng nghanol eu prifddinas, Baghdad yn mynnu gweithredu ar unwaith i'r ton o dor cyfraith sydd yn y ddinas.
Roedd y protestwyr yn gweiddi ac cario arwyddion oedd yn mynnu gwell diogewlch i osgoi mwy o ddwyn eiddo.
Fe ddaw hyn yn dilyn rhybudd gan fudiad Y Groes Goch bod y system feddygol yn Baghdad yn dirywio gan bod y trais a'r ofn yn parhau.
Mae nifer o feddygon a gweithwyr iechyd yn cario gynnau i ddiogelu eu hunnain wrth i bobol gerdded i mewn i ysbytai i ddwyn be allen nhw.
Ond mae 'na arwyddion bod lluoedd America yn barod i ymyrryd a dod a chyfraith a threfn yn ôl i'r ddinas.
Mae bobol wedi bod yn dwyn o dai a busnesau bobol gyffredin ar ôl i'r adeiladau arlywyddol a llywodraethol gael eu gwagio.
Dinas Saddam
Mae'r ddinas yn dal i fod yn le peryglus iawn gyda sethu ac ymladd yn dal i ddigwydd ar y strydoedd yn enwedig mewn maes-dref yng ngogledd y ddinas, Dinas Saddam.
Yn ôl Paul Wood, gohebydd y BBC yn Baghdad, mae cyrff rhai o'r bobol sydd wedi bod yn dwyn yn cael eu claddu ar ochr y ffyrdd gan eu bod yn dechrau drewi.
Ychydig o fudiadau dyngarol sy'n parhau i weithio yn Baghdad gyda'r ddinas yn dal yn le peryglus.
Cafodd aelod o'r Groes Goch ei ladd ddydd Mawrth yn y ddinas ac maen nhw wedi dod a'u gwaith yno i ben.
Dywedodd Adran Amddiffyn America y byddan nhw'n gyrru hyd at 1,200 o swyddogion yr heddlu i Irac odn doedden nhw ddim yn gwybod pryd y bydden nhw'n cyrraedd.