Wedi i'r Iraciaid adael y ddinas fe aeth y Cwrdiaid i mewn
|
Mae milwyr Cwrdaidd wedi dechrau gadael dinas Kirkuk yng ngogledd Irac wedi iddyn nhw ei meddiannu yn dilyn dymchwel gweinyddiaeth Saddam Hussein ddydd Iau.
Maen nhw wedi bod o dan bwysau i wneud hynny ers iddyn nhw feddiannu'r ddinas.
Roedd Llywodraeth Twrci yn pryderu y byddai'r Cwrdiaid yn manteisio ar y sefyllfa i sefydlu gwladwriaeth annibynnol.
Mae lluoedd America yn cynyddu eu presenoldeb yn y ddinas i geisio rheoli'r ardal sy'n allweddol i'r diwydiant olew.
Fe wnaeth miloedd o filwyr Cwrdiadd symud i mewn i Kirkuk wedi i filwyr Irac adael y ddinas.
Mynnodd Twrci bod America yn cymryd rheolaeth ar y ddinas i sicrhau nad oedd y Cwrdiaid yn mynd i sefydlu pwer.
Dal i fod mewn grym ar y ffin rhwng Twrci ac Irac mae milwyr Twrci ond yn ôl gohebwyr yng Ngogledd Irac maen nhw'n gobeithio y bydd y tensiwn yn lleihau.
Heddychlon
Mae lluoedd America wedi dechrau sefydlu gwersyll milwrol ym maes awyr Kirkuk ac mae disgwyl i fwy o filwyr wrth gefn gyrraedd y ddinas yn fuan.
Mae mwyafrif o ganol y ddinas yn gymharol heddychlon wrth i bresenoldeb Americanwyr gynyddu.
Ar gyrion y ddinas mae 'na nifer o bobol wedi bod yn dwyn.
Mae'r trigolion lleol yn gwarchod eu hunnain yn Baghdad
|
Mae tor cyfraith wedi bod yn broblem enfawr yn ninas Mosul yn y gogledd ac yn y brifddinas, Baghdad.
Mae'r rhai sy'n dwyn yn dechrau mynd i mewn i gartrefi bobol gyffredin a busnesau, wedi iddyn nhw redeg allan o balasai ac adeiladau'r llywodraeth i'w targedu.
Erbyn hyn mae pobol gyffredin gan gynnwys staff ysbytai yn cario arfau i ddiogelu eu hunain rhag y rhai sy'n dwyn.
Dywedodd y mudiad rhyngwladol, Y Groes Goch, eu bod wedi eu brawychu gan y sefyllfa yn Baghdad, sy'n ymylu ar anarchiaeth yn ôl y mudiad.
Yn y cyfamser mae lluoedd Americanaidd yn ceisio rheoli dinasoedd eraill yn Irac sydd wedi cael eu difrodi gan drais a lladrad ar raddfa eang ers i'r weinyddiaeth Iracaidd golli eu gafael.
Fe rybuddiodd y Groes Goch o gyfrifoldeb cyfreithiol Prydain ac America i ddiogelu dinasyddion a gwasanaethau allweddol.
Yn ôl y Groes Goch mae'r dwyn wedi gadale ysbytai'r ddinas heb wasanaeth llawn.
Mae milwyr hefyd yn symud yn nes i mewn i dref genedigol Saddam Hussein, Tikrit.
Dyma un o'r dinasoedd sydd ddim hyd yma yn eu meddiant.
Ac mae lluoedd America wedi bod yn meddiannu dinas Mosul wedi i'r Iraciaid ei gadael ddydd Iau.