Gwynfor Evans: Ymgyrchydd dros achosion cenedlaethol
|
Cafodd Gwynfor Evans ei eni yn Y Barri ar Fedi 1 1912 ond bu'n byw am y rhan fwyaf o'i fywyd yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin, cyn symud i Bencarreg.
Yn ddyn priod, roedd ganddo saith o blant ac wyrion, wyresau a gor-wyrion.
Cafodd ei addysg yn Y Barri cyn symud i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth a Choleg Ioan Sant, Rhydychen.
Dysgodd y Gymraeg yn 18 oed ac yn y coleg sefydlodd gangen o Blaid Cymru.
Amlycaf
Daeth yn un o ffigyrau amlycaf gwleidyddiaeth Cymru.
Yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol 1966
|
Er ei fod wedi graddio a'i hyfforddi fel cyfreithiwr, gweithio fel garddwr masnachol a wnaeth yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin cyn a thra ei fod yn Aelod Seneddol tan ei ymddeoliad.
Gwrthododd ymuno â'r lluoedd arfog yn yr Ail Ryfel Byd gan ei fod yn heddychwr ac yn Gristion, ac er iddo ymddangos o flaen tribiwnlys yng Nghaerfyrddin, cafodd ei ryddhau'n ddiamod.
Yn 1945 cafodd ei ethol yn llywydd cyn dod yn Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru, swydd a ddaliodd am fwy na 30 mlynedd.
Yn y pumdegau bu'n ymgyrchu o blaid Senedd i Gymru ac roedd ar flaen y gad yn y frwydr i atal Cyngor Dinas Lerpwl rhag boddi Cwm Celyn.
Wedi'r ymgyrchu ac agoriad swyddogol Argae Tryweryn yn 1965 fe ddaeth buddugoliaeth i Gwynfor ac i Blaid Cymru.
Caerfyrddin
Fe enillodd is-etholiad Caerfyrddin yn 1966 wedi marwolaeth yr aelod Llafur, Y Fonesig Megan Lloyd George.
Portread o Gwynfor Evans gan David Griffiths
|
Roedd ei fuddugoliaeth yng Nghaerfyrddin ymhlith y rhai mwyaf syfrdanol yn hanes gwleidyddiaeth Prydain wrth i Blaid Cymru gael eu haelod Seneddol cyntaf.
Teithiodd cannoedd o gefnogwyr i Lundain pan aeth i'r Senedd am y tro cynta.
Yn 1967 pasiodd Llywodraeth Harold Wilson Ddeddf yr Iaith Gymraeg ac yn 1970, flwyddyn wedi'r Arwisgo, collodd Gwynfor ei sedd a'r ymgeisydd Llafur Gwynoro Jones enillodd.
Aeth Gwynfor yn ôl i'r Senedd yn 1974 a hynny gyda dau o Aelodau Seneddol eraill Plaid Cymru Dafydd Wigley a Dafydd Elis-Thomas.
Collodd y sedd yn 1979, y flwyddyn y daeth Thatcher i rym.
Ysbrydoliaeth
Wedyn bygythiodd newynu hyd at farwolaeth os nad oedd Llywodraeth Thatcher yn sefydlu sianel deledu Gymraeg yn 1980.
Roedd wedi bod yn amlwg iawn yn ymgyrch y sianel drwy gydol y saithdegau.
Ymgyrchydd dros achosion cenedlaethol
|
Bu hyn yn ysbrydoliaeth i nifer o Gymry weithredu.
Gwrthododd nifer o bobol dalu eu trwyddedau teledu a bu'n rhaid i'r llywodraeth ildio.
Yn 1982, wedi'r holl brotestio, cafodd S4C ei sefydlu.
I Gwynfor Evans, roedd hanes Cymru'n bwysig. Nid yn unig yr oedd yn wleidydd ond roedd yn Gristion, yn Annibynnwr ac yn heddychwr.
Roedd yn cyfeirio'n aml at Macsen Wledig a'r Arglwydd Rhys mewn areithiau ac yn 1971 cyhoeddodd gyfrol swmpus ar hanes Cymru sef Aros Mae.
Cafodd ei ethol yn Gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1953 yn 40 oed.
Gwireddu breuddwyd
Yn ymgyrch etholiadol 1997 fe ddychwelodd Gwynfor i Sgwâr Caerfyrddin - adlais o'r noson yn 1966 pan oedd y sgwâr yn llawn o'i gefnogwyr.
Cafodd fyw i weld mesur o ymreolaeth wedi canlyniadau hanesyddol refferendwm y cynulliad.
A chwaraeodd Caerfyrddin ran bwysig yn y canlyniad. Pan gyhoeddwyd canlyniad yr etholaeth llwyddodd Cymru i gael cynulliad.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanelli yn 2000 gwnaeth ei ymddangosiad cyhoeddus diwethaf wrth dderbyn gwobr Anrhydedd Cymry'r Cyfanfyd am "oes o waith i ac ymgorffori delfrydau Cymru".
Roedd y seremoni'n llawn emosiwn wrth i'r gynulleidfa'r Pafiliwn orlawn anrhydeddu'r dyn arbennig hwn.
Fe oedd y cyntaf i dderbyn yr anrhydedd.
Yn 2001 cyhoeddodd gyfrol gyda'r ffotograffydd Marian Delyth, Cymru o Hud, a'r fersiwn Saesneg, Eternal Wales.
Roedd y llyfr yn llawn o ffotograffau trawiadol o lefydd ag arwyddocâd arbennig yn hanes Cymru.
Ym Medi 2002 dathlodd ei ben-blwydd yn 90 oed yng nghwmni ei deulu yn ei gartref ym Mhencarreg.
I ddathlu'r achlysur cafodd portread ohono ei gyflwyno i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yr artist oedd David Griffiths o Gaerdydd.