BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd:  Dydd Iau, 10 Ebrill, 2003, 15:59 GMT 16:59 UK
Bollywood i ffilmio yng Nghymru
Shahrukh Khan a Aishwarya Rai sr y ffilm Devdas
Cyn Miss Byd Aishwarya Rai fydd seren y ffilm
Fe fydd rhai o olygfeydd prydferthaf Cymru yn cael eu defnyddio fel cefndir yn ffilm ddiweddaraf Bollywood, y diwydiant ffilm anferth yn India.

Mae un o gwmnau ffilm mwyaf India wedi dewis ffilmio rhan o'u ffilm ddiweddaraf yng nghoedwigoedd canolbarth Cymru, ac hefyd yn Eryri.

Daw hyn yn dilyn ymgyrch gan Gomisiwn Sgrn Cymru i ddenu gwneuthurwyr ffilm o India i Gymru.

Fe fu dirprwyaeth o'r Comisiwn draw yn India ym mis Tachwedd.

Yno fe wnaethon nhw gyfarfod phrif gynhyrchydd ffilmiau Bollywood, Yash Chopra.

Mae disgwyl y bydd aelodau o dm cynhyrchu Boney Kapoor yn dod i Gymru am wythnos ar ddiwedd fis Ebrill.

Eryri
Bu i Tomb Raider II ffilmio'n Eryri
Fe fyddan nhw'n ffilmio golygfeydd ar gyfer ffilm o'r enw Kyun! Ho Gaya Na Pyaar sy'n golygu Mae o wedi digwydd, cariad.

Seren y ffilm fydd cyn-enillydd cystadleuaeth Miss Byd, Aishwarya Rai.

Fe ddywedodd Mike Wallwork, Cydlynydd Cenedlaethol Comisiwn Sgrn Cymru, ei fod wrth ei fodd bod y cwmni ffilm o India wedi dewis dod i weithio yng Nghymru.

"Mae'n wych bod un o gynhyrchwyr amlycaf Bollywood wedi dewis Cymru. Mae'n cryfhau delwedd Cymru yn y byd ffilm rhyngwladol".

Mae Comisiwn Sgrn Cymru yn ffyddiog y bydd modd denu mwy o gynhyrchwyr ffilm enwocaf y byd i ddewis Cymru ar gyfer eu ffilmiau.

Y bwriad yw ceisio denu mwy o wneuthurwyr ffilm, nid yn unig o India, ond o bob rhan o'r byd i ddefnyddio tirlun prydferth ac unigryw Cymru.

Yn l Comisiwn Sgrn Cymru, fe fyddai hynny'n hwb economaidd i'r ardaloedd penodol, ac hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth am Gymru trwy'r byd.




HEFYD:
Disgwyl Bollywood i Gymru
03 Rhag 02  |  Newyddion
Bollywood yn dod i'r canolbarth
08 Awst 01  |  Newyddion
Bollywood ar lannau'r Fenai
04 Gorff 00  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^