BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd:  Dydd Gwener, 11 Ebrill, 2003, 11:21 GMT 12:21 UK
Oedi eto yng Ngogledd Iwerddon
Tony Blair a Bertie Ahern
Fe fydd Tony Blair a Bertie Ahern yn gwneud y cynlluniau yn gyhoeddus
Mae Tony Blair a Phrif Weinidog Iwerddon Bertie Ahern wedi dweud na fyddan nhw'n cynnal cyfarfod arbennig ddydd Gwener i drafod dyfodol proses heddwch Gogledd Iwerddon.

Trafferthion wrth giesio perswadio'r unoliaethwyr i gyd-weithio Ô Sinn Fein yng nghynulliad y dalaith sy'n bennaf gyfrfiol am yr oedi.

Mae'r unoliaethwyr yn mynnu bod rhaid i'r IRA ddadgomisiynu mwy o'u harfau cyn eu bod nhw'n ystyried cydwetihio a Sinn Fein yn y sefydliad.

Fe gafodd Cynulliad Gogledd Iwerddon ei ddiddymu fis hydref y llynedd wedi honiadau fod yr IRA wedi bod yn ysbio yn Stormont.

Gobaith y ddau arweinydd ydy dod i gytundeb terfynol.

Bum mlynedd bron ers i'r ddau arweinydd gyhoeddi Cytundeb Gwener y Groglith mae'r ddau'n gobeithio gallu cytuno sut y dylai'r pleidiau gwleidyddol gael dychwelyd i rym ar y cyd yn y dalaith.

Un o'r meini tramgwydd fydd bodolaeth yr IRA a gwrthwynebiad Sinn Fein i gynlluniau polis´au newydd.

Ymhlith y materion eraill o dan drafodaeth fydd y bwriad i leihau presenoldeb milwrol yn y dalaith, datganoli grym ar blismona a chyfiawnder a mesur i gyflwyno deddf iawnderau a chydraddoldeb.

Symud hanesyddol

Mae disgwyl i'r cynllun newydd gyfeirio at barafilwyr gweriniaethol.

Credir bod nifer o'r rhain heb gael eu dwyn o flaen llys.

Mae gobaith y bydd y cynllun diweddara yn arwain at symudiadau hanesyddol gan yr IRA o ran arfau.

Pe bai'r IRA yn symud tuag at weithredu, gallai Plaid Unoliaethwyr Ulster ddychwelyd i rym yn Stormont.

Mae George W. Bush, Arlywydd America, wedi cefnogi'r cynlluniau ar ˘l iddo gyfarfod y ddau arweinydd a'r pleidiau o blaid y cytundeb yng Ngogledd Iwerddon ddydd Mawrth.

Dywedodd David Trimble, arweinydd Unoliaethwyr Ulster, bod geiriau Mr Bush yn gadarnhaol.

Ddydd Mawrth dywedodd Gerry Adams, arweinydd Sinn Fein, nad oedd unrhyw gytundeb wedi cael ei wneud.




HEFYD:
Gohirio etholiadau Gogledd Iwerddon
05 Maw 03  |  Newyddion
Yr IRA dan bwysau i ildio
15 Hyd 02  |  Newyddion
Dileu cynulliad Gogledd Iwerddon
15 Hyd 02  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^