BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 23 Mai, 2003, 11:58 GMT 12:58 UK
Cyfarwyddwr cyntaf i theatr
Cefin Roberts
Cefin Roberts fydd y cyfarwyddwr cyntaf

Mae Cefin Roberts wedi ei benodi'n gyfarwyddwr artistig cyntaf Theatr Genedlaethol newydd Cymru.

Bydd Mr Roberts, Cyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy, yn dechrau yn ei swydd newydd yn yr hydref a bydd y cynhyrchiad cyntaf yn cael ei lwyfannu'r flwyddyn nesaf.

Dyma benodiad cyntaf a phwysicaf y theatr newydd. Cyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon y byddai'r fenter newydd yn cael ei lleoli yn Sir Gaerfyrddin.

Mae yna waith caled o'n blaenau ac rydym ni'n sylweddoli ei fod yn her enbyd.
Cefin Roberts, cyfarwyddwr artistig newydd Theatr Genedlaethol newydd Cymru
Bydd 15 o swyddi newydd yn cael eu creu.

Y bwriad yw bod y cwmni'n teithio o gwmpas Cymru gyda chynhyrchiadau Cymraeg a gwneud rhywfaint o waith mewn ysgolion a chymunedau lleol.

Mae Mr Roberts yn actor, cyfarwyddwr a pherfformiwr enwog.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi canolbwyntio'r rhan fwyaf o'i ymdrechion ar Ysgol Glanaethwy.

Ysgol Glanaethwy

Fe a'i wraig, Rhian, sefydlodd yr ysgol 13 mlynedd yn l.

Bydd yr ysgol yn parhau ond rhywun arall fydd yng ngofal y gwaith o ddydd i ddydd.

Dywedodd Mr Roberts ei fod yn edrych ymlaen at her y swydd newydd.

"Dwi'n frwdfrydig ond mae gen i ofn y swydd mewn rhyw ffordd hefyd am ei bod yn swydd newydd sbon a does yna neb i'w ddilyn na llwybr i'w throedio ond mi fydd yn brofiad cyffrous cael sefydlu theatr genedlaethol i Gymru o'r diwedd.

"Mae yna waith caled o'n blaenau ac rydym ni'n sylweddoli ei fod yn her enbyd.

"Mae'n rhaid i chi wneud yn siwr fod apl eang yn y cynhyrchiadau.

Mae'n rhaid plesio pawb oherwydd lle bach iawn ydi Cymru ac mae'n rhaid i ni drio apelio at bawb yn genedlaethol ac yn sicr at ieuenctid, maen rhaid eu denu nhw yn l i'r theatr" meddai.




GWYLIWCH A GWRANDEWCH
Sin Tecwyn, BBC Cymru
"Gobeithio cyfuno'r mentrus a'r poblogaidd"



HEFYD:
Theatr genedlaethol i Sir Gr
20 Mai 03  |  Newyddion



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^