Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd | Clecs Cymru

BBC News Online: Vote2001: Etholiad2001


Dydd Mawrth, 22 Mai, 2001, 12:12 GMT

'Angen mwy o arian i Gymru'


Doedd dim digon o arian i dalu am ddifrod y llifogydd
Mae Plaid Cymru wedi galw am well fformiwla ariannu a fyddai'n gallu delio â digwyddiadau fel llifogydd ac argyfwng clwy'r traed a'r genau.

Mae gweinidog llywodraeth leol a thai yr wrthblaid yn y Cynulliad, Janet Ryder, wedi beirniadu fformiwla Bellwin.

Dyma'r fformiwla a ddefnyddir ar hyn o bryd ac mae'n nodi fod 75% o'r arian y mae cynghorau'n ei dderbyn i wario ar argyfyngau yn dod oddi wrth y llywodraeth.

Mae Janet Ryder yn pwysleisio fod gwasanaethau pwysig yng Nghymru yn dioddef gan nad ydyn nhw'n derbyn digon o arian.

Jane Ryder yn beirniadu fformiwla Bellwin
Y llynedd dim ond £3m o arian ddaeth o San Steffan.

Roedd yn rhaid i'r Cynulliad ei hun chwilio am weddill yr arian.

Dywed Janet Ryder: "Ar hyn o bryd mae'n rhaid i ni gymryd yr arian o grant bloc y Cynulliad Cenedlaethol, grant y mae Plaid Cymru wedi dadlau'n barhaus sy'n annigonol i ariannu iechyd, addysg a gwasanaethau eraill yng Nghymru".

"Mae darganfod arian i ddelio ag argyfyngau mawr o'n bloc gwario yn rhoi mwy o bwysau ar ein cyllideb a bydd gwasanaethau eraill yn dioddef".

Mae Plaid Cymru'n beirniadu'r llywodraeth am fod ganddyn nhw gymaint o arian wrth gefn.

Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw £16bn.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghwm Cynon, Steven Cornelius, "Rydym ni i gyd wedi talu'r arin hwn drwy drethi, ond pan ddigwyddodd trychineb yng Nghymru aros ar gau wnaeth y gist".

Mae Plaid Cymru'n dadlau na all y Cynulliad dalu am yr arian sydd ei angen gan nad oes ganddo bwerau trethu na rheolaeth dros ei chyllideb.


Straeon Perthnasol:
Lansio ymgyrch etholiadol Plaid Cymru Ai lwc yn unig oedd 1999? Plaid Cymru



Cysylltiadau Rhyngrwyd: Plaid Cymru | Llafur | Democratiaid Rhyddfrydol | Ceidwadwyr |
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd | Clecs Cymru