| Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001 | ||||||||
|
Dydd Mawrth, 22 Mai, 2001, 12:12 GMT
'Angen mwy o arian i Gymru'
![]() Doedd dim digon o arian i dalu am ddifrod y llifogydd
Mae Plaid Cymru wedi galw am well fformiwla ariannu a fyddai'n gallu delio â digwyddiadau fel llifogydd ac argyfwng clwy'r traed a'r genau.
Mae gweinidog llywodraeth leol a thai yr wrthblaid yn y Cynulliad, Janet Ryder, wedi beirniadu fformiwla Bellwin. Dyma'r fformiwla a ddefnyddir ar hyn o bryd ac mae'n nodi fod 75% o'r arian y mae cynghorau'n ei dderbyn i wario ar argyfyngau yn dod oddi wrth y llywodraeth. Mae Janet Ryder yn pwysleisio fod gwasanaethau pwysig yng Nghymru yn dioddef gan nad ydyn nhw'n derbyn digon o arian.
Roedd yn rhaid i'r Cynulliad ei hun chwilio am weddill yr arian. Dywed Janet Ryder: "Ar hyn o bryd mae'n rhaid i ni gymryd yr arian o grant bloc y Cynulliad Cenedlaethol, grant y mae Plaid Cymru wedi dadlau'n barhaus sy'n annigonol i ariannu iechyd, addysg a gwasanaethau eraill yng Nghymru". "Mae darganfod arian i ddelio ag argyfyngau mawr o'n bloc gwario yn rhoi mwy o bwysau ar ein cyllideb a bydd gwasanaethau eraill yn dioddef". Mae Plaid Cymru'n beirniadu'r llywodraeth am fod ganddyn nhw gymaint o arian wrth gefn. Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw £16bn. Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghwm Cynon, Steven Cornelius, "Rydym ni i gyd wedi talu'r arin hwn drwy drethi, ond pan ddigwyddodd trychineb yng Nghymru aros ar gau wnaeth y gist". Mae Plaid Cymru'n dadlau na all y Cynulliad dalu am yr arian sydd ei angen gan nad oes ganddo bwerau trethu na rheolaeth dros ei chyllideb.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
||||||