Mae'r blynyddoedd ers yr Ail Ryfel Byd wedi gweld sawl canlyniad dramatig wrth i'r pleidiau ymgiprys i ffurfio llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ysgubodd y Blaid Lafur i rym yn 1945, wedyn fe gafwyd cyfnodau Churchill a Macmillan, Heath a Wilson, cyn i Margaret Thatcher weddnewid gwleidyddiaeth Prydain ym 1979.
Bellach, Llafur sydd â'r awenau, ac yn amddiffyn mwyafrif mawr, ond pa wersi y gellir eu dysgu o hanes etholiadau'r gorffennol?
Yma, cewch bori drwy frwydrau etholiadol y blynyddoedd ers 1945 a cheisio dyfalu ym mha gyfeiriad y bydd gwyntoedd hanes yn chwythu yn 2001.
1997
Buddugoliaeth ysgubol i Tony Blair a diwedd ar 18 mlynedd o lywodraeth y Torïaid.
1992
Y Torïaid yn dal eu gafael, er gwaethaf ymdrechion Neil Kinnock, ond gyda'u mwyafrif bellach yn denau.
1987
Llafur yn adfywio, ond Margaret Thatcher, a streic y Glowyr y tu ôl iddi, yn dal gafael ar fwyafrif diogel.
1983
Uchafbwynt llywodraeth Mrs Thatcher, yn ennill mwyafrif llethol dros Blaid Lafur aneffeithiol a rhanedig.
1979
Y Torïaid yn sgubo'r wlad, gan ddisodli Jim Callaghan a dechrau cyfnod newydd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrydain.
Hydref 1974
Llafur yn galw etholiad arall er mwyn cael mwyafrif clir, ac yn llwyddo, er o drwch blewyn - dim ond tair sedd.
Chwefror 1974
Y Torïaid yn colli eu gafael, a Llafur yn ffurfio'r llywodraeth, ond heb gael mwyafrif.
1970
Llafur yn arwain y polau piniwn, ond newyddion drwg am yr economi yn rhoi'r Torïaid ar y blaen ar ddiwrnod y bleidlais.
1966
Enillodd Llafur yr etholiad hwn ag un o'r mwyafrifoedd mwyaf mewn hanes a hynny o ganlyniad i arweinyddiaeth grefftus Harold Wilson ers 1964.
1964
Llafur o dan Harold Wilson yn dod i rym, gan guro Syr Alec Douglas-Home, er o fwyafrif bychan iawn.
1959
Y Torïaid, bellach o dan arweiniad Harold Macmillan, yn ennill tymor arall mewn llywodraeth.
1955
Y Ceidwadwyr yn dod i rym, ac Anthony Eden yn dod yn brif weinidog.
1951
Enillodd y Ceidwadwyr yr etholiad hwn a daeth Winston Churchill yn Brif Weinidog unwaith eto.
1950
Llafur yn dal gafael ar rym, ond gyda'u mwyafrif yn disgyn o 193 i 5.
1945
Un o'r etholiadau a newidiodd wleidyddiaeth Prydain, gyda'r Blaid Lafur o dan Clement Attlee yn dod i rym gyda rhaglen o ddiwygio bywyd y wlad.