Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Mawrth, 8 Mai, 2001, 12:42 GMT
Sinn Fein

Dyma'r ail blaid genedlaetholgar fwyaf yng Ngogledd Iwerddon.

Mae'r blaid yn cefnogi'r syniad o weriniaeth Wyddelig sy'n cynnwys Gogledd Iwerddon.

Yn fwy na dim mae am weld diwedd ar reolaeth Brydeinig.

Pabyddion yw'r rhan fwyaf o'i chefnogwyr.

Cafodd ei sefydlwyd yn 1905 gyda'r bwriad o frwydro dros " hawl pobol Iwerddon i gael penderfynu drostyn nhw eu hunain".

Pencadlys Sinn Fein yn Falls Road, Belfast
Pencadlys Sinn Fein yn Falls Road, Belfast
Fe enillodd fwyafrif yn etholiadau Iwerddon yn 1918 a oedd yn dilyn Gwrthryfel y Psg 1916.

Fe sefydlodd y blaid senedd Iwerddon pan sefydlwyd Gweriniaeth Iwerddon nad oedd yn cynnwys chwe sir gogledd y wlad.

Ar hyn o bryd dim ond un aelod sydd gan y blaid yn senedd y weriniaeth.

Erbyn hyn ystyrir Sinn Fein fel asgell wleidyddol yr IRA ac mae wedi cefnogi ymdrech dreisgar yr IRA ar hyd y blynyddoedd.

Llywydd y blaid yw Gerry Adams ac un o'i brif weinyddwyr yw Martin McGuinness.

Mae gan y ddau ohonyn nhw seddi yn San Steffan ond mae nhw'n gwrthod eu cymryd o ran egwyddor.

Gerry Adams, llywydd y blaid
Gerry Adams, llywydd y blaid
Mae'r ddau ohonyn nhw wedi'u carcharu yn y gorffennol dan amheuaeth o weithio gyda'r IRA.

Ers i'r IRA ddatgan eu cadoediad ac i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith gael ei sefydlu, mae'r blaid wedi rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio dulliau gwleidyddol i wireddu'i amcanion.

Ymgyrchodd y blaid dros bleidlais 'ie' yn y refferendwm dros gytundeb heddwch.

Pwysau

Mae Sinn Fein wedi wynebu llawer o bwysau gan y pleidiau eraill yn Stormont i berswadio'r IRA i ildio'u harfau a'u ffrwydron.

Ond mae Sinn Fein yn pwysleisio na all siarad ar ran yr IRA na'u gorfodi i ddad-gomisiynu eu harfau.

Mae hyn wedi arwain at lawer o wrthdaro rhwng y blaid a Phlaid Unoliaethol Ulster.

Maen nhw'n dadlau nad yw Sinn Fein yn rhoi digon o bwysau ar yr IRA.

Mae'r Blaid Unoliaethol eisoes wedi tynnu'n l unwaith o lywodraeth Gogledd Iwerddon ac wedi gosod sancsiynau yn erbyn Sinn Fein.

Martin McGuiness yn cyrraedd Llundain ar gyfer y trafodaethau heddwch
Martin McGuiness yn cyrraedd Llundain ar gyfer y trafodaethau heddwch
Yn l Sinn Fein dim ond pe bai'r Cytundeb yn cael ei weithredu'n llawn y bydd yr IRA yn cytuno i ddadgomisiynu.

Mae'r blaid yn beio llywodraeth Prydain am beidio a thynnu'r milwyr o Ogledd Iwerddon.

Mae gan Sinn Fein ddwy sedd yn San Steffan sef Gorllewin Belfast a Chanolbarth Ulster.

Llwyddodd i gynyddu'i chyfran o bleidleisiau yn etholiadau'r Cynulliad.

Yn yr etholiad cyffredinol fe fydd y blaid yn targedu seddi yng ngorllewin Tyrone, gogledd Belfast a Farmagh a de Tyrone.

Fe geisiodd y blaid ffurfio cytundeb 'r Blaid Laur, Ddemocratiadd a Chymdeithasol, plaid genedlaetholgar arall, ond fe wrthodd y blaid honno'r cynnig.

Mae gan y blaid 18 o seddi yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon a dau weinidog yn y gweithgor.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.