Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Llun, 2 Ebrill, 2001, 11:08 GMT
Etholiad 1997
Tony Blair ac aelodau o'i gabinet
Tony Blair ac aelodau o'i gabinet

Daeth diwedd ar 18 mlynedd o lywodraeth y Tor´aid ym 1997 pan sgubodd Llafur Newydd i fewn o dan arweinyddiaeth Tony Blair.

Llwyddodd Llafur i gael mwyafrif o 179, ac roedd y symudiad o 10% o'r Blaid Geidwadol i Lafur yn fwy nag unrhyw newid mewn unrhyw etholiad ers 1945.

Bu'r etholiad yn llwyddiant i bleidiau eraill a fu ar eu hennill o ganlyniad i drychineb y Ceidwadwyr.

Dyblodd y cenedlaetholwyr nifer eu seddi yn yr Alban ac enillodd y Rhyddfrydwyr eu cyfanswm mwyaf o seddi ers dros 60 mlynedd.

Cefndir

Ar 8 Ebrill 1997 diddymwyd y senedd gan y Prif Weinidog John Major a phenderfynwyd cynnal yr etholiad ar 1 Mai.

Roedd y Ceidwadwyr 20 pwynt y tu ˘l i Lafur yn y polau 'piniwn ac roedd Mr Major yn gorfod wynebu nid yn unig arweinydd poblogaidd newydd, sef Tony Blair, ond plaid wleidyddol ar ei newydd wedd hefyd, sef Llafur Newydd.

Ers iddo ddod yn arweinydd yn 1994 roedd Tony Blair mewn gwirionedd wedi gweddnewid y Blaid Lafur yn llwyr.

Roedd wedi ymwrthod Ô'r polis´au hynny y credai iddyn nhw wneud Llafur yn annerbyniol yn y gorffennol, gan gynnwys ymrwymiad hanesyddol Llafur tuag at wladoli diwydiant.

Hefyd roedd wedi gwanhau cysylltiadau'r blaid Ô'r Undebau Llafur.

Wedi 18 mlynedd fel gwrthblaid roedd Llafur yn fwy na pharod i feddu grym.

Llwyddodd Peter Mandelson i sicrhau disgyblaeth lem o fewn y blaid.

Ar yr un pryd roedd y Ceidwadwyr yn wynebu rhaniadau mewnol dros Ewrop ac roedd nifer o helyntion wedi bod o ganlyniad i ymddygiad rhai gweinidogion.

Ers tua phum mlynedd roedd mwyafrif seddi John Major wedi dechrau gostwng o ganlyniad i farwolaethau ac ymddiswyddiadau.

John Major yn gorfod gadael 10 'Downing Street'
John Major yn gorfod gadael 10 'Downing Street'
Yn fuan wedi iddo alw etholiad daeth ei lywodraeth yn un leiafrifol a chafodd y blaid dipyn o ergyd pan enillodd Llafur is-etholiad De Wirral.

Arferai'r sedd honno fod yn un saff i'r Tor´aid ond disgyn a wnaeth i ddwylo Llafur gyda symudiad o 17.2% o bleidleisiau tuag at y blaid honno.

Nid oedd pethau'n edrych yn addawol iawn i'r Ceidwadwyr felly ond un cysur oedd y ffyniant yn economi Prydain a oedd wedi datblygu o dan y Ceidwadwyr.

Yr Ymgyrch

Bu ymgyrch 1997 yn un o'r rhai hiraf mewn hanes ac un o'r rhai mwyaf negyddol.

Trodd Llafur a'r Ceidwadwyr at dactegau dychryn a arweiniodd at feirniadaeth gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Paddy Ashdown.

Roedd John Major yn gobeithio y byddai'r ymgyrch hir yn rhoi digon o amser iddyn nhw ennill y blaen ar Lafur yn y polau 'piniwn.

Ond ni fu ymgyrch y Ceidwadwyr yn llwyddiannus iawn.

Gan ei fod wedi dewis diddymu'r senedd yn gynnar roedd y Prif Weinidog wedi atal cyhoeddi adroddiad gan y Comisiynydd Seneddol, Syr Gordon Downey ynglyn Ô'r helynt 'arian am gwestiynau'.

Beirniadodd Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol y Prif Weinidog am hyn.

Roedd cyhuddiadau o 'sleaze' bellach yn gysgod du dros ymgyrch y Tor´aid drwy gydol yr etholiad.

Ymddiswyddodd Tim Smith - un o'r gweinidogion oedd yng nghanol yr helynt - fel ymgeisydd er mwyn osgoi cywilyddio'r llywodraeth ymhellach.

Neil Hamilton yn wynebu cyhuddiadau o 'sleaze'
Neil Hamilton yn wynebu cyhuddiadau o 'sleaze'
Gwrthododd Neil Hamilton - yr ail weinidog oedd yng nghanol yr helynt - ymddiswyddo, gan wadu nad oedd wedi gwneud unrhyw beth o'i le a bu'n rhaid i John Major ei gefnogi.

Cafodd ymgyrch y Ceidwadwyr ergyd arall pan gollon nhw gefnogaeth papur newydd y Sun.

Dyma bapur oedd yn draddodiadol wedi cefnogi'r Ceidwadwyr ond fe newidion nhw'u hochr a chefnogi Llafur Newydd gan ddweud y dylid rhoi cyfle iddyn nhw.

Gan fod gan y Sun gylchrediad o bum miliwn bu hyn yn ergyd enfawr i ymgyrch y Ceidwadwyr.

Yn fuan iawn aeth y papur ati i gywilyddio'r Tor´aid ymhellach pan gyhoeddodd luniau o Piers Merchant AS Ceidwadol yr honwyd iddo gael perthynas Ô merch ifanc 17 oed o Soho.

Yn nechrau mis Ebrill cyhoeddodd y prif bleidiau eu maniffesto.

Yn eu maniffesto nhw roedd y Ceidwadwyr yn addo lleihad mewn trethi i barau priod, sefydlu cyfradd dreth o 20 ceiniog, preifateiddio system danddaearol Llundain a'r Gwasanaeth Traffig Awyr.

Roedd rhai pethau annisgwyl yn maniffesto'r Blaid Lafur.

Yn wir, roedd nifer o'u haddewidion hwy eisoes wedi'u gwneud yn hysbys - megis cynigion ynglyn Ô gwaith, cosbi troseddwyr ifanc, lleihau rhestrau aros Gwasanaeth Iechyd a lleihau maint dosbarthiadau mewn ysgolion.

Hefyd addawodd Llafur beidio a chynyddu treth incwm ac fe addawodd refferendwm ar ddatganoli i Gymru a'r Alban.

Y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yr unig blaid a ddadleuodd o blaid trethi uwch ac roedd addysg yn cael lle amlwg yn eu maniffesto hefyd.

Paddy Ashdown, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn disgwyl canlyniad hanesyddol
Paddy Ashdown, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn disgwyl canlyniad hanesyddol
Roedden nhw'n galw am gynnydd o geiniog ar dreth incwm sylfaenol a fyddai'n cael ei ddefnyddio i wella addysg yng Nghymru.

Drwy gydol yr ymgyrch ymosododd y Ceidwadwyr ar safbwynt Tony Blair ynglyn ag Ewrop gan ddadlau fod ganddo'i olygon ar Ewrop Ffederal.

Ond yn anffodus i John Major roedd Ewrop yn fan gwan i'r Ceidwadwyr hefyd gan nad oedden nhw'n siwr pa safbwynt i'w fabwysiadau ynglyn ag arian sengl.

Roedd nifer o aelodau'r blaid yn credu mai'r peth saffaf fyddai gwrthwynebu arian sengl i Ewrop.

Doedd gan John Major felly ddim dewis ond cynnig pleidlais rydd i'r Aelodau Seneddol Ceidwadol ar y mater.

Aeth y Ceidwadwyr ati wedyn i ymosod ar gynlluniau Llafur ynglyn Ô datganoli gan bwysleiso y byddai hyn yn rhoi diwedd ar undod Prydain.

Ond ni chafodd rhybuddion John Major lawer o effaith ar y pleidleiswyr.

Alex  Salmond, arweinydd yr SNP
Alex Salmond, arweinydd yr SNP
Roedd Plaid Genedlaethol yr Alban o dan arweiniad Alex Salmond yn gobeithio ennill canlyniad hanesyddol yn yr etholiad hon.

Roedd y blaid yn gwneud yn dda yn y polau 'piniwn ac yn gobeithio y byddai symudiad Llafur tua'r dde yn gwthio nifer o'u pleidleiswyr tuag ar yr SNP.

Dywedodd Paddy Ashdown wrth gefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol fod y blaid ar drothwy newid hanesyddol yn ei safle.

Roedd y blaid wedi llwyddo i ennill tir yn y polau piniwn cyn yr etholiad ac roedd hi'n ymddangos y bydden nhw'n gwneud yn dda o bleidleisio tactegol.

Canlyniadau

Arweiniodd yr etholiad hon at greu hinsawdd wleidyddol newydd sbon ym Mhrydain.

Roedd Llafur wedi'u hethol i'r llywodraeth gyda'r mwyafrif mwyaf mewn hanes.

Fe lwyddon nhw i ennill 419 o seddi a mwyafirf o dros 170, ac roedd y symudiad tuag at y blaid yn 10%.

Dyma fuddugoliaeth ysgubol i'r blaid felly yn union fel yr oedd y polau piniwn wedi'i rhagweld.

Roedd y Ceidwadwyr wedi eu hysgubo oddi ar y map gwleidyddol yn yr Alban a Chymru ac nid oedd ganddyn nhw'r un Aelod Seneddol y tu allan i Loegr.

Gadawyd y Ceidwadwyr Ô dim ond 165 o Aelodau Seneddol, y nifer lleiaf ers 1906.

Llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i gynyddu cyfanswm eu seddi i 46, eu nifer uchaf ers 1929.

Yn yr Alban, ni wnaeth yr SNP gystal ag yr oedd Alex Salmond wedi'i obeithio ond fe lwyddon nhw i gynnyddu eu cynrhychiolaeth i 6 sedd.

Llwyddodd Plaid Cymru i ddal ei gafael ar ei phedair sedd.

Yng Ngogledd Iwerddon gwnaeth Sinn Fein yn dda iawn gan roi'r hawl i'r blaid gael rhan yn y trafodaethau heddwch.