Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Llun, 2 Ebrill, 2001, 15:18 GMT
Etholiad 1951
Winston Churchill yn dod yn Brif Weinidog unwaith eto
Winston Churchill yn dod yn Brif Weinidog unwaith eto
Enillodd y Ceidwadwyr yr etholiad hwn a daeth Winston Churchill yn Brif Weinidog unwaith eto.

Felly y Ceidwadwyr oedd mewn grym unwaith eto ond ni wnaethant lawer i wella'r wladwriaeth les yr oedd y llywodraeth Lafur o'i flaen wedi'i chreu.

Cefndir

Erbyn 1951 roedd hi'n amlwg fod llywodraeth Lafur Clement Attlee yn tynnu tua'i therfyn.

Roedd y rhan fwyaf o'r pethau yr oedd Llafur wedi ei addo ym maniffesto 1945 wedi cael eu gweithredu.

Felly nid oedd unrhyw gyfeiriad i'r blaid bellach.

Yn etholiad 1950 roedd mwyafrif Clement Attlee wedi lleihau'n sylweddol.

Nid oedd pethau'n edrych yn dda o ran polisau tramor a chartref y llywodraeth chwaith ac roedd argyfwng wedi codi yn Iran, Yr Aifft Swdan ac Ewrop.

Erbyn 1950 digwyddodd argyfwng cyntaf y rhyfel oer wrth i Ogledd Korea, a oedd yn gomiwnyddol, ymosod ar Dde Korea.

Gan ei fod yn un o gynghreiriaid America bu'n rhaid i Brydain anfon milwyr yno i amddiffyn De Korea.

Cafodd cst y rhyfel effaith ofnadwy ar economi Prydain a llywodraeth Attlee.

Roedd pethau'n edrych yn ansefydlog iawn ac felly penderfynodd Attlee ddiddymu'r senedd a galw etholiad cyffredinol.

Yr ymgyrch

Dechreuodd y Ceidwadwyr ymgyrchu'n ffyrnig gyda Churchill yn pwysleisio'i fod yn brofiadol ym maes rhyfel wedi iddo arwain Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd hyn yn apelio at bobol felly, gan ei bod yn gyfnod o ryfel unwaith eto.

Roedd y Ceidwadwyr yn addo lleihau'r prinder tai yn y wlad ac yn dweud y bydden nhw'n adeiladu 300,000 o dai y flwyddyn pe baen nhw mewn grym.

Wrth i'r ymgyrch fynd yn ei blaen cyhuddodd Llafur y Ceidwadwyr o fanteisio ar y ffaith bod y wlad mewn rhyfel.

Arweiniodd hyn at gyhuddiadau mewn papurau fel y Daily Mirror.

Gwylltiodd Churchill yn ln oherwydd hyn ac aeth 'r papur i'r llys.

Ond roedd ymosodiadau Llafur wedi gweithio ac erbyn diwrnod yr etholiad roedd mantais y Ceidwadwyr wedi gostwng o 2.5%.

Canlyniadau

Seddi

  • Llafur 295

  • Ceidwadwyr 321

  • Rhyddfrydwyr 6

  • Eraill 3

    Canran y pleidleisiau

  • Llafur 49.4%

  • Ceidwadwyr 49.4%

  • Rhyddfrydwyr 2.6%

  • Eraill 0.3%

    Y Ceidwadwyr felly a enillodd yr etholiad yn y diwedd ond nid oedd eu mwyafrif mor uchel ag yr oedden nhw wedi ei ddisgwyl a dim ond 1% fu'r symudiad oddi wrth y Blaid Lafur.

    Colli wnaeth Llafur er eu bod wedi ennill bron i 14m o bleidleisiau.

    Dim ond chwe sedd y llwyddodd y Rhyddfrydwyr i'w hennill gan nad oedd ganddyn nhw lawer o ymgeiswyr oherwydd diffyg arian.