Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Mawrth, 27 Mawrth, 2001, 10:53 GMT
Y Cynulliad Cenedlaethol - effaith ar fywyd Cymru?
Y Cynulliad Cenedlaethol ac arweinyddion y glymblaid
Y Cynulliad Cenedlaethol ac arweinyddion y glymblaid
Nid yw'r Cynulliad Cymreig yn sefydliad drydanol iawn ac felly nid oes disgwyl i ni gael ysgytwad fawr pan yw dau o'i elfennau yngyd, yn Űl gohebydd gwleidyddol y BBC Simon Morris.

Mae fel yr arwyddion radio gwan hynny y mae gwyddonwyr yn gwrando arnynt i geisio chwilio am fywyd ar blanedau eraill.

Felly nid yw'r Cynulliad wedi creu fawr o ysgytwad , ond nid yw hyn yn golygu na all y negeseuon sy'n cael eu rhyddhau gan y Cynulliad gyrraedd poblogaeth Cymru.

Fel newyddiadurwr yn ymdrin ‚'r Cynulliad mae Simon Morris yn cyfaddef bod Rhodri Morgan wedi llwyddo i wireddu un o'i amcanion drwy sicrhau mwyafrif.

Efallai bod hyn felly'n cael gwared o'r swn yn y cefndir ond nid yw'r neges ei hun wedi ennill tir eto.

Dangosodd pol 'piniwn Beaufort ar gyfer BBC Cymru yn niwedd Tachwedd - ddeufis wedi sefydlu'r glymbalid ‚'r Democratiaid Rhyddfrydol - mai dim ond 13% o bleidleiswyr a gredai fod y Cynulliad yn cael gwir effaith ar eu bywydau.

Yn ol 66% nid yw'n cael unrhyw effaith.

Canlyniad yr adrefnu fu penodi Dirprwy Swyddog Llywyddol.

Mike German, Dirprwy Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
Mike German, Dirprwy Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
Roedd Llafur mor siwr y byddai Rosemary Butler - yr ysgrifennydd addysg a ddiswyddwyd - yn cael ei hethol fel ei bod wedi cael gweld y swyddfa hyd yn oed cyn y pleidleisio.

Collwyd y bleidlais wedi i rai o aelodau Llafur fynnu pleidleisio i AS ac AC Wrexham John Marek.

Felly bu'n rhaid i Llafur ddysgu un o brif reolau gwleidyddiaeth glymbleidiol.

Pan yw plaid yn dechrau dibynnu ar bleidleisiau plaid arall yna bydd yn rhaid iddynt ddibynnu llai ar eu pleidleisiau eu hunain.

Roedd y fordd y deliodd Llafur ‚ hyn yn amlygu rhywbeth arall sydd mor gyffredin yn San Steffan sef haerllugrwydd.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn cwyno bod Llafur wedi anghofio am y cysyniad o 'gynhwysedd' gan nad oedden nhw bellach yn gorfod trafod pob mater yn unigol a'r pleidiau eraill.

Bellach doedden nhw ddim yn rhannu gwybodaeth ac roedden nhw'n rhuthro materion heb drafodaeth.

Efallai bod ychydig o wirionedd yn hyn ond dyma'r math o gyhuddiad y mae'r wrthblaid yn eu gwneud fel arfer.

Mae'n anodd gweld fod unrhyw beth wedi newid ers y dyddiau hynny pan oedd Alun Michael yn Brif Ysgrifennydd.

Fe wrthododd ef ddiswyddo'r Ysgrifenydd Amaeth ar y pryd sef Christine Humphreys wedi iddi gael ei beirniadu am ei diffyg ymdrech i gadw rheolaeth ar ddigwyddiadau.

Llywodraethau a gwrthbleidiau, dyma beth sy'n digwydd yma.

Rhodri Morgan Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
Rhodri Morgan Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
Yn gyfreithiol mae'r pwerau y mae San Steffan wedi'u datganoli yn perthyn i'r Cynulliad cyfan ac yn enw'r Cynulliad i gyd y gwneir penderfyniadau.

Ond nid dyma sy'n digwydd mewn gwrionedd.

Mae'n ymddangos nad yw'r gyfraith yn cael ei gweithredu'n llythrennol bellach o ganlyniad i ddatblygiadau cyfansoddiadol.

Yn lle 'Ysgrifenyddion' mae gennym ni weinidogion.

Yn lle'r 'blaid fwyaf nad yw'n cael ei chynrhychioli yn y Cabinet' mae gennym ni'r wrthblaid, ac mae gan hwn Arweinydd.

Roedd Llafur eisiau llywodraethu, hyd yn oed os nad oedd ganddyn nhw fwyafrif.

Ond yn absenoldeb mwyafrif sefydlog roedd trafferthion yn sicr o godi.

Yr hyn y mae'r glymblaid wedi'i wneud yw ffurfioli hynny, a chaniatŠu i hyn fod yn hysbys.

Mewn gwirionedd mae pawb yn elwa o hyn, gan gynnwys Plaid Cymru a'r ToriaÔd sydd am weld y cyhoedd yn gallu gwahaniaethu rhwng yr hyn y gwna'r Cynulliad a'r weinyddiaeth.

Dafydd Elis Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.
Dafydd Elis Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r Arglwydd Elis Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn credu fod y gorfforaeth gorfforedig fwy neu lai'n farw ac mae ef yn cyfeirio'n aml at y Llywodraeth a'r Wrthblaid.

Ond mae Deddf Llywodraeth Cymru yn parhau yn ogystal ‚'r amwysedd yn ei gylch.

Mae proses felly wedi'i adael i farw a hynny o fewn deddfwriaeth sy'n dal i fodoli.

Beth sydd wedi digwydd felly i'r sefydlogrwydd a addawyd o dan y ddeddf?

Gwir brawf y Cynulliad a'r weinyddiaeth fel y gwyr pawb fydd ei allu i drawsnewid economi Cymru.

Yng Nghymru mae cyfanswm y CMC (GDP) y pen yn is na 80% o gyfartaledd Prydain, hyd yn oed cyn i Corus benderfynu diswyddo miloedd o weithwyr dur, felly bydd hyn yn dipyn o sialens.

Mae gwendidau wedi ymddangos yn y strategaeth economiadd o ganlyniad i ddiffyg gweision sifil i wneud polisÔau.

Erbyn hyn mae cynnigion wedi'u gwneud i gryfhau'r gwasanaeth sifil.

Ond nid oedd posib i hyn i gyd ddigwydd dros nos.

Er nad yw hyn yn syndod, y neges mewn gwirionedd felly yw bod newid mawr yn digwydd dros amser.

Felly nid yw'r Cynulliad wedi peri ysgytwad mawr i ni yng Nghymru, ond os bydd yn goroesi gall y sefydlogrwydd yn ei sgil olygu y bydd y neges o'r diwedd yn treiddio i ymwybyddiaeth pobol Cymru.