Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Mawrth, 8 Mai, 2001, 21:10 GMT
Plaid Cymru

Ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925 gan chwe aelod ddaeth ynghyd ym Mhwllheli.

Roedd y blaid newydd hon yn wynebu amgylchiadau anodd iawn gan fod y dair plaid Brydeinig yn rymus yng Nghymru.

Yn 1929 mentrodd y blaid i'r maes etholiadol ac ymgeisiodd Lewis Valentine am sedd Caernarfon, ond dim ond 1,6% o'r bleidlais a gafodd y blaid.

Yn ystod y 1930au ymgeisiodd Plaid Cymru ddwywaith am sedd Caernarfon ond isel iawn oedd cyfran eu pleidleisiau o'i gymharu Ô chyfran yr SNP yn yr Alban.

Am y pum mlynedd cyntaf fe fu'r blaid yn canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg, ond newidiodd polis´au'r blaid yn y 1930au a datblygwyd polis´au gwleidyddol.

Gwr amlwg yn nhrefniadaeth Plaid Cymru yn ystod y 1930au oedd D.J.Davies ac ef oedd prif luniwr polisi economiadd y blaid.


Yn 1936 llosgwyd Ysgol Fomio Penyberth ym Mhen llyn gan dri aelod o Blaid Cymru.

Llwyddodd y weithred i dynnu sylw at genedlaetholdeb yng Nghymru ond nid oedd gan y blaid yr adnoddau i gynnal y gefnogaeth.

Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd roedd y blaid yn gryfach ac enillodd ddwy is-etholiad yn 1945 sef Arfon a Chastell Nedd.

Yn etholiad cyffredinol 1945 ymgeisiodd y blaid am saith sedd ac ennill dros 16,000 o bleidleisiau.

Yn 1949 cynhaliodd y blaid ei rali flynyddol gyntaf ym Machynlleth ac roedd hwn yn ymgais i hybu'r syniad o senedd i Gymru ym meddwl y cyhoedd.

Bu'r ymgyrch hon yn gyfrifol am wella perfformiad Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol 1955 ble cynyddodd nifer y pleidleisiau i'r blaid i 45 mil o'i gymharu a 17 mil yn 1950.

Erbyn 1959 roedd y blaid yn ymgeisio am 20 o'r 36 sedd yng Nghymru ac fe enillon nhw gyfartaledd o bron i 4 mil y sedd.

Yn 1962 cafwyd araith gan un o arweinwyr y blaid,Saunders Lewis, sf 'Tynged yr Iaith'.

Yn ur araith hon galwodd ar y blaid i weithredu'n uniongyrchol dros yr iaith Gymraeg.

O ganlyniad i'r araith hon sefydlwyd Cymdeithas yr iaith Gymraeg ac o hyn ymlaen felly gallai Plaid Cymru ganolbwyntio ar faterion gwleidyddol.


Yn 1966 cafodd y blaid fuddugoliaeth fawr pan enillodd Gwynfor Evans is-etholiad Caerfyrddin.

Roedd y fuddugoliaeth hon yn ogystal a chyfran dda o bleidleisiau yn is-etholiadau Gorllewin y Rhondda 1967 a Chaerffili 1968 yn dangos fod y blaid yn dod yn amlwg yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Yn etholiad cyffredinol 1970 llwyddodd Plaid Cymru i ymgeisio am bob sedd yng Nghymru am y tro cyntaf a llwyddodd i ennill 175,000 o bleidleisiau.

Fe ymgeison nhw am bob sedd yn etholiad 1974 hefyd ond disgynodd eu cyfanswm o bleidleisiau.

Er hyn fe lwyddon nhw i ennill seddi Caernarfon a Meirionnydd ac yng Nghaerfyrddin, dim ond tri phleidlais oedden nhw o fuddugoliaeth.

Ond yn etholiad mis Hydref 1974 llwyddodd y blaid i ennill Caerfyrddin a chadw'u gafael ar Gaernarfon a Meirionnydd a hynny gyda mwyafrif uwch.

Hefyd gwnaeth y blaid yn dda mewn etholiadau llywodraeth leol.

Er hyn bychan iawn oedd llwyddiant y blaid o'i gymharu Ô'r SNP yn yr Alban.

Diwedd y 1970au roedd datganoli yng Nghymru a'r Alban ar yr agenda wleidyddol.

Roedd y mwyafrif o'i aelodau y credu mai proses fyddai'n digwydd gam wrth gam fyddai hon ac felly roedden nhw'n croesawu Deddf Cymru 1978 oedd yn cynnig sefydlu Cynulliad yng Nghymru.

Ond roedd rhai aelodau fel Phil Williams yn credu bod y ddeddf yn ddiffygiol iawn ac na ddylid bod yn frwdfrydig dros gynllun datganoli Llafur rhag ofn i'r cyhoedd ei gysylltu Ô Phlaid Cymru.

1979

Yn 1979 cytunodd cyngor cenedlaethol y blaid y dylai weithio dros bleidlais o blaid y Cynulliad.

Wedi i Gymru bleidleisio yn erbyn datganoli ar Fawrth 1af 1979 roedd aelodau Plaid Cymru'n anobeithiol iawn.

Yn etholiad cyffredinol 1979 gwael fu perfformiad y blaid ymhob man ac yn arbennig yn seddi de ddwyrain Cymru.

Daeth y blaid Geidwadol yn fygythiad mawr gan ennill 1/3 o'r bleidlais Gymreig a dod yn blaid fwyaf Gogledd a Gorllewin Cymru.

Yn yr etholiadau lleol enillodd Llafur fwy o bleidleisiau yn yr ardaloedd diwydianol gan chwalu llwyddianau Plaid Cymru yn 1976 bron i gyd.

Doedd y blaid ddim yn siwr i ba gyfeiriad i fynd nesaf.

Yn nechrau'r 1980au chwaraeodd y blaid ran flaenllaw ym mrwydr y sianel ac aeth Gwynfor Evans ar streic newyn.

Roedd rhai o aelodau'r blaid yn beirniadu'r gefnogaeth i'r ymgyrch gan ddadlau ei fod yn rhoi'r argraff mai dim ond am yr iaith y poenai Plaid Cymru.

Ym mis Ionawr 1980 cyhoeddwyd adroddiad gan gomisiwn ymchwil y blaid.

Roedd hwn yn nodi y dylai'r blaid ganolbwyntio ar ddod a'r grymoedd oedd wedi'u gwahanu mewn gwleidyddiaeth Gymreig ynghyd sef cenedlaetholdeb, radicaliaeth a sosialaeth.

Nododd Phil Williams, aelod o'r comisiwn y dylai Plaid Cymru geisio sosialaeth ddatganoledig gyda'r pwyslais mwyaf ar sosialaeth.

Felly yng nghynhadledd Caerfyrddin 1981 derbyniwyd awgrym Phil Williams a datganwyd fod Plaid Cymru yn blaid sosialaidd.


Rhwng 1981 a 1984, Dafydd Wigley oedd llywydd y blaid ac yn y cyfnod hwn ceisiodd ddehongli sosialaeth y blaid mewn ffordd oedd yn gyson a thwf y blaid ers cyfnod D.J.Davies.

Yn 1984 daeth Dafydd Elis Thomas yn lywydd hyd 1991 a cheisodd ef hybu astudiaethau o broblemau Cymru a chreu cysylltiadau rhwng cenedlaetholwyr Cymreig a nifer o fudiadau.

Roedd rhyw fath o rwyg felly o fewn y blaid sef rhwng y dde lle roedd aelodau fel Gwynfor Evans a Dafydd Wigley, a'r Chwith Genedlaethol fel Dafydd Elis Thomas.

Ond roedd dylanwad y chwith yn lleihau'n sylweddol yng Nghymru a lleihau wnaeth y gefnogaeth i'r Blaid Lafur yng Nghymru.

Erbyn diwedd yr wythdegau roedd Dafydd Elis Thomas wedi dechrau troi oddi wrth y blaid Lafur ac yn cydnabod y gallai dryswch godi yng Nghymru pe na bai gan Blaid Cymru ddelwedd wahanol i'r Blaid Lafur.

Gyda datblygiad yr Undeb Ewropeaidd dechreuodd Plaid Cymru ganolbwyntio ar lais Cymru yn Ewrop yn ail hanner yr 1980au.

Gwelwyd nifer o arweinwyr yn enwedig Dafydd Wigley yn gadarn iawn ynglyn Ô hyn.

Bellach roedd y cyhoedd yn llawer mwy parod i gefnogi'r blaid.

Yn etholiad cyffredinol 1992 ennillodd Plaid Cymru bedair sedd ac 8.8% o'r bleidlais, roedd hyn 1.6% yn uwch nag yn 1987.

Yn is-etholiad Islwyn ym mis Chwefror 1995 yn dilyn ymddiswyddiad Neil Kinnock, ennillodd Plaid Cymru 12.7% o'r bleidlais.

Roedd hyn 3.9% yn uwch nac yn etholiad cyffredinol 1992 ac yn golygu swing o Lafur i Blaid Cymru o 6.95%.

Yn etholiadau lleol Cymru yn 1995 enillodd Plaid Cymru dros 100 o seddi cyngor.

Gwnaeth y blaid yn dda yn etholiadau Ewrop yn 1994 hefyd a chafodd ei hymgeiswyr 17% o'r bleidlais gan wthio'r Blaid Geidwadol i'r trydydd safle.

Ond perfformiad gwael gafwyd gan y blaid yn etholiad cyffredinol 1997 a chafodd y blaid lai na 7% o'r gefnogaeth.

Roedd hyn yn golygu ei bod yn y pedwerydd safle ymhlith y prif bleidiau yng Nghymru.

Datganoli

Ond er hyn roedd yr etholiad yn un bwysig I'r blaid gan fod Llafur wedi addo refferendwm ar ddatganoli pe baen nhw yn cael eu hethol.

Wedi I Gymru bledleisio dros gael Cynulliad gyda mwyafrif bychan iawn daeth cyfle'r blaid yn Etholiadau'r Cynulliad yn 1999.

Llwyddodd Plaid Cymru I ddod yn ail brif blaid fwyaf yng Nghymru yn yr etholiadau hyn.

O hyn ymlaen roedd mwy o bobol yn cymryd y blaid o ddifri a bydd hyn mae'n debyg I'w weld yn Etholiad 2001.

Erbyn hyn mae'r blaid yn dipyn mwy o fygythiad I Lafur yng Nghymru.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.