Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Mawrth, 20 Mawrth, 2001, 16:05 GMT
Etholiad 1992

Llwyddodd John Major i ddod buddugoliaeth arall i'r Ceidwadwyr

Ebrill 9fed 1992

Enillodd y Ceidwadwyr eu pedwerydd etholiad cyffredinol yn olynol ond gostyngodd eu mwyafrif yn sylweddol.

Dim ond 21 sedd y llwyddon nhw i'w hennill o'i gymharu a 101 yn 1987.

Cefndir

Nid oedd y tymor seneddol diwethaf wedi bod yn un hawdd i'r Ceidwadwyr er eu bod wedi ennill etholiad 1987 a mwyafrif o 101 sedd.

Erbyn mis Tachwedd 1990 roedd gan y Ceidwadwyr arweinydd newydd sef John Major.

Roedd Margaret Thatcher a oedd wedi bod mor amlwg yng ngwleidyddiaeth yr 1980au wedi ei gorfodi i ymddiswyddo gan ei Haelodau Seneddol ei hun.

Yn fuan wedi i John Major ddodd yn arweinydd fw wynebwyd y blaid gan nifer o broblemau.

Yn fuan yn ystod y tymor penderfynodd y Ceidwadwyr i gyflwyno Treth y Pen a hynny er gwaetha' gwrthwynebiad cryf gan y boblogaeth.

Bu'r penderfyniad yn niweidiol iawn i'r blaid.

Ym mis Mawrth 1990 cafwyd protest fawr yn Llundain yn erbyn Treth y Pen ble gwelwyd pledleiswyr dosbarth canol a rhai a wrthwynebai'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu'r polisi.

Dechreuodd rhai gweinidogion geisio dad-wneud y polisi ond tra roedd Thatcher dal yn arwain roedd hynny'n amhosib gan mai ei pholisi hi oeddd hwn.

Cyn y brotest roedd Thatcher eisoes wedi colli ei Changhellor sef Nigel Lawson ac roedd hi'n amlwg ei bod yn dechrau colli cysylltiad a'i phlaid.

I wneud pethau'n waeth roedd Prydain erbyn 1990 yn wynebu dirwasgiad economiadd.

Roedd polau piniwn mis Hydref 1990 yn dangos fod y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr wedi gostwng yn sylweddol.

Dechreuodd cyd-weithwyr Margaret Thatcher ei gweld fel rhwystr i'r blaid.

Margaret Thatcher yn amhoblogaidd ymysg aelodau ei phlaid
Margaret Thatcher yn amhoblogaidd ymysg aelodau ei phlaid
Cawsant gyfle i ddewis arweinydd newydd wedi i Margaret Thatcher bwysleisio yn y senedd ei bod yn gwrthwynebu 'r syniad o arian sengl Ewropeaidd a datblygiad Ewrop ffederal.

Gwylltiodd hyn Syr Geoffrey Howe ac ar Dachwedd 1af 1990 fe ymddiswyddodd gan alw ar weinidogion eraill i ymateb i agwedd Maraget Thatcher ynghylch Ewrop.

Yn fuan wedyn cafwyd cystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid ac er mai Margaret Thatcher enillodd y rownd gyntaf yn erbyn Michael Heseltine nid oedd ei buddugoliaeth yn ddigon.

Tynodd yn ol o'r ail rownd a chafwyd gornest rhwng John Major, Michael Heseltine a Douglas Hurd.

John Major enillodd a dechreuodd pethau edrych yn well i'r blaid.

Roedd tasg fawr yn wynebu'r Blaid Lafur wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer etholiad 1992.

Prif thema'r blaid yn eu hymgyrch oedd ei bod hi'n amser cael newid wedi 13 mlynedd o lywodraeth Geidwadol.

Ond doedd hon ddim yn ddadl gref gan fod newid wedi digwydd gyda penodi John Major yn arweinydd.

Yn fuan wedi etholiad 1987 roedd Neil Kinnock wedi dechrau adolygu polisi'r blaid ac felly roedd y polisiau yr oedden nhw'n eu cynnig yn 1992 yn debycach i'r hyn yr oedd etholwyr ei eisiau.

Wedi iddo ddod yn arweinydd ar ol etholiad 1983 roedd Kinnock wedi dechrau dad-wneud nifer o bolisiau sosialaidd traddodiadol Llafur.

Roedd wedi parhau a hyn wedyn hyd 1992.

Erbyn haf 1989 roedd pethau'n dechrau gwella i'r Blaid Lafur a hynny gan fod y llywodraeth mor amhoblogaidd.

Roedd Llafur ar y blaen yn y polau piniwn a chynyddodd eu cefnogaeth ymhellach pan gyflwynwyd Treth y Pen yng Nghymru a Lloegr.

Ond wedi i John Major ennill yr arweinyddiaeth disgynodd Llafur y tu ol i'r Ceidwadwyr eto yn y polau piniwn.

Yn 1988 sefydlwyd plaid y Democratiaid Rhyddfrydol ac ac felly yn 1992 roedd yn brwydro ei etholiad cyffredinol cyntaf.

Roedd y Gynghrair wedi dymchwel ar ol etholiad 1987 oherwydd gwrthdaro dros bolisi a phersonoliaethau.

Paddy Ashdown yn arwin ei blaid i'w hetholiad cyffredinol cyntaf
Paddy Ashdown yn arwin ei blaid i'w hetholiad cyffredinol cyntaf
Etholwyd Paddy Ashdown yn arweinydd y blaid ac roedd tasg fawr yn ei wynebu, yn wir roedd hi'n gyfnod anodd iawn ar y blaid.

Ond erbyn diwedd 1990 roedd y blaid yn dechrau sefyll ar ei thraed ac ym mis Hydref 1990 fe enillon nhw sedd Eastbourne a oedd ynghynt yn sedd saff i'r Ceidwadwyr.

Canlyniad

Seddi

  • Llafur 271
  • Ceidwadwyr 336

  • Democratiaid Rhyddfrydol
  • Eraill 24

    Cyfran y bleidlais ym Mhrydain

  • Llafur 35.2%
  • Ceidwadwyr 42.8%
  • Democratiaid Rhyddfrydol
  • Eraill 3.8%

    Llwyddodd John Major a'i blaid i ennill yr etholiad felly ond roedd mwyafrif y Ceidwadwyr wedi gostwng yn sylwedddol ers 1987.

    Llwyddodd Llafur i ennill 42 o seddi ychwanegol on er hyn yn fuan wedi'r etholiad ymddiswyddodd Neil Kinnock fel arweinydd y Blaid ac ymddiswyddodd Roy Hattersley ei ddirprwy hefyd.

    Yn eu lle daeth John Smith yn arweinydd a Margaret Beckett yn ddirprwy.

    Er i'r Ceidwadwyr ennill fe gollon nhw nifer o seddi pwysig fel Bath, sedd Cadeirydd y blaid Chris Patten a aeth i ddwylo'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    Fe gollodd naw o weinidogion eu seddi.

    Wedi'r etholiad daeth Betty Boothroyd yn lefarydd Ty'r Cyffredin, y llefarydd benywaidd cyntaf erioed.