Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Mawrth, 20 Mawrth, 2001, 16:12 GMT
Etholiad Mehefin 1983

Buddugoliaeth arall i Margaret Thatcher

Mehefin 9fed 1983

Cafodd Margaret Thatcher ei hail fuddugoliaeth yn yr etholiad hon.

Bu'r Ceidwadwyr yn ffodus fod y pledleisiau yn eu herbyn wedi eu rhannu rhwng y Blaid Lafur, a'r gynghrair rhwng yr SDP a'r Rhyddfrydwyr.

Cododd mwyafrif Thatcher i 144 o seddi.

Yn yr etholiad hon gwelwyd perfformiad gwaethaf y Blaid Lafur ers 1918.

Cefndir

Roedd y Blaid Geidwadol mewn sefyllfa dda pan ddechreuodd yr ymgyrch etholiadol yn 1983.

Pan ddaeth i rym roedd Margaret Thatcher wedi bod yn un o'r Prif Weinidogion mwyaf amhoblogaidd erioed yn hanes Prydain.

Ond cynyddodd ei phoblogrwydd wedi buddugoliaeth Prydain yn rhyfel y Falklands yn 1982.

Ar y llaw arall roedd y Blaid Lafur yn wan oherwydd rhaniadau mewnol a diffygion y Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd newydd.

Daeth Michael Foot yn arweinydd newydd yr wrthblaid yn lle Jim Callaghan yn 1980.

Roedd ethol Michael Foot yn cynrhychioli 'swing' dramatig i'r chwith ac yn gwaethygu'r rhaniadau o fewn y blaid.

Yn 1981 gadawodd nifer o weinidogion y Cabinet y blaid i ffurfio'r SDP.

Wedi buddugoliaeth Prydain dros yr Ariannin yn y Falklands ac o ganlyniad i welliant yn yr economi, penderfynodd Margaret Thatcher alw etholiad cyffredinol.

Pan alwodd yr etholiad roedd rhai polau piniwn yn dangos ei bod 18 pwynt ar y blaen i Lafur.

Yr Ymgyrch

Yn eu maniffesto roedd y Ceidwadwyr yn canolbwyntio ar dair elfen sef amddiffyn, cyflogaeth a ffyniant economaidd.

Roedd y Ceidwadwyr yn dal i gefnogi mynediad i'r Gymuned Ewropeaidd, diwygio'r Undebau Llafur , preifateiddio ymhellach, lleihad mewn trethi a rhyfel chwyddiant.

Yn eu maniffesto nhw roedd Llafur yn cynnig tynnu'n ol o'r Farchnad Gyffredin, diddymu Ty'r Arglwyddi a thynnu taflegrau o Brydain.

Roedd maniffesto'r Gynghrair yn cynnwys cynrhychiolaeth gyfrannol, datganoli i'r Alban a Chymru a diarfogi.