Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Llun, 19 Mawrth, 2001, 16:30 GMT
Etholiad Hydref 1974

Hydref 10fed 1974

Bu'n rhaid i'r Prif Weinidog Harold Wilson alw ail etholiad er mwyn ceisio ennill mwyafrif clir yn y Senedd.

Unwaith roedd Edward Heath yn ei wrthwynebu ac roedd y polau piniwn yn rhagweld buddugoliaeth i Lafur.

A Llafur a ennillodd ar y diwrnod ond dim ond o drwch blewyn gyda mwyafrif o dair sedd.

Cefndir

Dyma'r ail etholiad cyffredinol i gael ei chynnal mewn cyfnod o wytyh mis.

Ym mis Chwefror y Ceidwadwyr enillodd yr etholiad a hynny o drwch blewyn gan fethu ag ennill mwyafrif.

Ond nid oedd llywodraeth Edward Heath yn gallu rheoli senedd grog gan adael y Blaid Lafur i ffurfio'r llywodraeth leiafrifol gyntaf ers 1929.

Daeth Harold Wilson felly'n Brif Weinidog am y trydydd tro a llwyddodd i roi terfyn ar streic y glowyr a oedd wedi bod yn broblem fawr i lywodraeth Heath.

Ond er hyn roedd hi'n amlwg y byddai'n rhaid i Harold Wilson alw ail etholiad os oedd am gadw'i blaid yn y llywodraeth.

Roedd economi Prydain yn parhau yn ansefydlog ac roedd amodau byw yn y wlad yn is na gwledydd eraill Ewrop.

Roedd chwyddiant yn uchel a hynny'n rhannol oherwydd cytundeb y llywodraeth a'r glowyr.

Ond roedd y Blaid Lafur yn parhau'n hyderus mai nhw fyddai'n ennill yr etholiad ac roedd Harold Wilson yn credu y gallai feio'r Toriaid am gyflwr economiadd Prydain.

Yr Ymgyrch

Roedd y polau piniwn ar ddechrau'r ymgyrch yn dangos fod Llafur 10 pwynt ar y blaen i'r Toriaid.

Ond drwy gydol yr ymgyrch roedd Edward Heath yn parhau'n hyderus fod buddugoliaeth yn bosib.

Yn ystod yr ymgyrch ymosododd Llafur ar lywodraethau blaenorol Edward Heath gan bwysleisio fod Llafur yn wahanol i'r Toriaid yn cadw'u haddewidion.

Ceisiodd Harold Wilson gadw'i gabinet yn dawel ar fater y Farchnad Gyffredin ond datganodd Shirley Williams un o'r Aelodau Seneddol y byddai'n ymddiswyddo pe bai Prydain yn gadael y Gymuned Economaidd Ewropeaidd.

Canolbwyntiodd Edward Heath ar undod cenedlaethol yn ei ymgyrch ef ac yn nyddiau olaf yr ymgyrch cynnigodd lywodraeth a fyddai'n cyfleu undod cenedlaethol hyd yn oed pe bai'r Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif.

Roedd syniadau Edward Heath yn poeni Llafur a pwysleisiodd Harold Wilson y byddai clymblaid yn golygu polisiau'r Ceidwadwyr mewn gwirionedd.

Roedd Llafur yn parhau i atgoffa pleidleiswyr mai nhw lwyddodd i ddod i gytundeb a'r glowyr yn y diwedd lle roedd Edward Heath a'i blaid wedi methu.

Ceisiodd y Ceidwadwyr ennill pleidleisiau hefyd drwy ddatan y byddan nhw'n cadw'r gyfradd llog ar forgeisi yn isel.

Cyn yr etholiad dangosodd polau piniwn fod Llafur ar y blaen o bron i 15 pwynt ond unwaith eto bu'r arolygon yn anghywir.

Llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol o dan arweiniad Jeremy Thorpe i fanteisio ar y pleidleiswyr hynny oedd ddim yn siwr i ba un o'r ddwy brif blaid i bleidleisio iddi.

Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol chwe miliwn o bleidleisiau ond problem y blaid oedd cadw gafael ar rheini oedd yn peleidleisio am y tro cyntaf.

Fel Edward Heath, soniai Jeremy Thorpe hefyd am Undod Cenedlaethol gan ddatgan fod problemau Prydain mor sylweddol fel na allai'r un blaid eu datrys ar ei phen ei hun.

Canlyniad

Seddi

  • Llafur 319
  • Ceidwadwyr 277
  • Democratiaid Rhyddfrydol 13
  • Eraill 26

    Cyfran o'r bleidlais ym Mhrydain

  • Llafur 40.25
  • Ceidwadwyr 36.7%
  • Democratiaid Rhyddfrydol 18.8%
  • Eraill 4.3%

    Llafur enillodd yr etholiad felly ond er bod y polau piniwn wedi dangos eu bod ar y blaen o 5-10% dim ond mwyafrif o dair sedd a gawsant.

    Roedd Edward Heath felly wedi colli etholiad arall ac roedd ei gyfnod fel arweinydd y Blaid Geidwadol yn prysur ddod i ben.

    Yr hyn sy'n ddiddorol am yr etholiad hon yw ei bod mwy o ferched, mwy o ryddfrydwyr a mwy o genedlaetholwyr yn yr Alban a Chymru yn ymgeisio nag erioed o'r blaen.