Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Llun, 2 Ebrill, 2001, 13:17 GMT
Etholiad 1979

Margaret Thatcher,y Prif Weinidog benywaidd cyntaf

Mai 3ydd 1979

Roedd yr etholiad hwn yn drobwynt yng ngwleidyddiaeth Prydain.

Yn y cyfnod rhwng 1945-79 gwelwyd rhyw fath o wleidyddiaeth 'gonsensws'.

Roedd y prif bleidiau fwy neu lai'n cytuno ar y prif faterion gwleidyddol fel yr economi gymysg, rl yr Undebau Llafur a natur gwasanaethau cyhoeddus.

Ond newidiodd hyn wedi etholiad cyffredinol 1979 pan ddaeth Margaret Thatcher yn Brif Weinidog.

Cefndir

Roedd y llywodraeth Lafur ddaeth i rym yn 1974 gyda mwyafrif bychan yn wynebu problemau economaidd sylweddol.

Roedd chwyddiant a diweithdra wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers yr Ail Ryfel Byd.

Ym mis Ebrill 1976 olynwyd y Prif Weinidog Harold Wilson gan Jim Callaghan.

Bu Callaghan yn Ganghellor a Gweinidog Cartref pan oedd Llafur mewn grym rhwng 1964-70 ac Ysgrifennydd o 1974 ymlaen.

Erbyn 1976 roedd y llywodraeth wedi colli ei fwyafrif ffurfiol ac wedi ei threchu mewn is-etholiad.

Gadawodd dau aelod o'r meinciau cefn y blaid i ymuno Phlaid Lafur yr Alban.

Ond er hyn llwyddodd Jim Callaghan i oroesi yn bennaf am nad oedd y gwrhbleidiau yn barod i uno i'w wrthwynebu.

Erbyn Mawrth 1977 roedd Llafur wedi colli mwy o is-etholiadau a chytunodd y Prif Weinidog i gytundeb seneddol gyda David Steel a'r Rhyddfrydwyr sef y 'Cytundeb Lib-Lab'.

Daeth y cytundeb hwn i ben ym mis Awst 1978 gan ei fod yn amhoblogaidd gyda rhai o aelodau'r ddwy blaid.

Gallai Jim Callaghan fod wedi galw'r etholiad yn Hydref 1978 gan fod yr economi'n gwella a'r llywodraeth wedi dod ychydig yn fwy poblogaidd ond penderfynodd aros tan 1979.


Jim Callaghan, olynydd Harold Wilson
Ond yn niwedd 1978 gwelwyd anghydfod diwydiannol gyda gweithwyr y sector gyhoeddus yn galw am gynnydd yn eu cyflogau.

Roedd hi'n ymddangos nad oedd y Prif Weinidog yn deall teimladau'r wlad ac fe aeth mor bell gwadu fod argyfwng yn bodoli.

Pan gafwyd y refferendwm wedyn ar ddatganoli ar Fawrth 1af 1979 gwrthod wnaeth Cymru, gyda dim ond 20% o'r pleidleiswyr o blaid. Pleidleisiodd yr Alban o blaid, ond nid oedd eu mwyafrif yn ddigon i basio'r cynnig.

Ar yr un diwrnod, collodd y llywodraeth ddwy sedd i'r Ceidwadwyr mewn is-etholiad.

Tynnodd yr SNP eu cefnogaeth oddi wrth y llywodraeth a phasiwyd pleidlais o ddiffyg hyder yn eu herbyn ar Fawrth 28ain.

Wedi hyn bu'n rhaid i Jim Callaghan alw etholiad cyffredinol.

Yr Ymgyrch

Bu pum wythnos rhwng y bleidlais o ddiffyg hyder tuag at y blaid Lafur a diwrnod pleidleisio.

Yn 1975 roedd Margaret Thatcher wedi cymryd lle Edward Heath fel arweinydd y Blaid Geidwadol.

Roedd hi'n barod ar gyfer etholiad ac yn benderfynol o roi'r bai am yr anghydfod diwydiannol ar ysgwyddau'r Llywodraeth.

O ddechrau'r ymgyrch roedd hi'n amlwg mai'r Ceidwadwyr fyddai'n ennill yr etholiad hon ac roedden nhw 10 pwynt ar y blaen yn y polau 'piniwn.

Ond roedd gan y Ceidwadwyr un broblem sef amhoblogrwydd Margret Thatcher ei hun o'i chymharu Jim Callaghan.

Unwaith eto roedd gan y teledu ran bwysig i'w chwarae yn yr ymgyrch hon a gweithiodd Mrs Thatcher yn galed i roi lluniau da i'r cyfryngau.

Yn eu maniffesto roedd Llafur yn cynnig cynnydd mewn pensiynau a thoriadau mewn trethi.

Ond roedd polau 'piniwn yn dangos fod y cyhoedd yn credu mai'r Ceidwadwyr oedd y blaid oedd yn fwyaf tebygol o ostwng trethi.

Yn eu maniffesto nhw roedd y Ceidwadwyr yn addo rheoli chwyddiant a chadw llygad ar yr undebau.

Canlyniadau

Seddi

  • Llafur 269
  • Ceidwadwyr 339
  • Rhyddfrydwyr 11
  • Eraill 16

    Cyfran o'r bleidlais ym Mhrydain

  • Llafur 37.8%
  • Ceidwadwyr 44.9%
  • Rhyddfrydwyrl 14.1%
  • Eraill 3.2%

    Y Ceidwadwyr a ennillodd, felly, a daeth Margaret Thatcher yn Brif Weinidog, y Prif Weinidog benywaidd cyntaf erioed.

    Cafodd y Ceidwadwyr fwyafrif saff ac roedd y symudiad tuag atynt oddi wrth Lafur yn 5.2%, y mwyaf ers 1945.

    Collodd y Rhyddfrydwyr ddwy sedd a lleihaodd eu cyfran o'r bleidlais 5.3 pwynt.

    Ni wnaeth y Plaid Cymru na'r SNP yn dda iawn chwaith, gan golli 10 o'r 14 o seddi rhyngddyn nhw.