Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Mercher, 9 Mai, 2001, 15:15 GMT
Etholiad 1970
Syndod wrth i Edward Heath a'i blaid ennill gyda mwyafrif saff
Syndod wrth i Edward Heath a'i blaid ennill gyda mwyafrif saff

Mehefin 18 1970

Bu'r cyfnod cyn yr etholiad yn un anodd iawn i'r llywodraeth Lafur ond dechreuodd pethau wella wrth i'r etholiad cyffredinol nesu.

Roedd y Prif Weinidog Harold Wilson yn sicr mai Llafur fyddai'n ennill.

Llafur oedd yn arwain yn y polau 'piniwn ond doedd hyn ddim yn debygol o barhau.

Cyn yr etholiad rhyddhawyd ffigurau economiadd gwael a symudodd hyn y cyd-bwysedd tuag at y Ceidwadwyr.

A nhw enillodd yr etholiad gyda Edward Heath yn dod yn Brif Weinidog gyda mwyafrif saff o 30 sedd yn Nhy'r Cyffredin.

Cefndir

Erbyn 1970 roedd Harold Wilson wedi bod yn Brif Weinidog ers chwe mlynedd.

Roedd Harold Wilson yn disgwyl ennill yr etholiad
Roedd Harold Wilson yn disgwyl ennill yr etholiad
Er ei fod wedi bod yn llwyddiannus mewn diwygio cymdeithasol, gwael fu ymdriniaeth Llafur 'r economi.

Roedd yr argyfwng datganoli yn 1967 wedi effeithio ar gefnogaeth Wilson yn ogystal phenderfyniad Arlywydd Ffrainc i wrthod gadael i Brydain ymuno 'r Farchnad Gyffredin.

Bu perfformiad y llywodraeth mewn etholiadau lleol, is-etholiadau a pholau 'piniwn yn wael.

Roedd cefnogwyr Llafur hyd yn oed yn anfodolon iawn a hynny oherwydd methiant y Cynllun Economiadd Cenedlaethol a chefnogaeth Wilson i'r Americanwyr yn Rhyfel Fietnam.

Ar y llaw arall roedd y Ceidwadwyr yn hyderus iawn y bydden nhw'n ennill yr etholiad.

Ond roedd problemau'n wynebu'r Ceidwadwyr hefyd - y brif un oedd amhoblogrwydd Edward Heath ymhlith pleidleiswyr.

Dychrynwyd Enoch Powell, aelod o gabinet yr wrthblaid, o weld bod nifer fawr o bobol yn ceisio cael mynediad i Brydain o dramor.

O ganlyniad i'w sylwadau dadleuol ar fewnfudo bu'n rhaid i Heath ddiswyddo Enoch Powell o gabinet yr wrthblaid.

Wrth i'r etholiad nesu, dechreuodd pethau wella i'r Blaid Lafur ac yn haf 1969 roedd yr economi'n llawer mwy llewyrchus.

Oherwydd hyn roedd y polau 'piniwn yn dangos cynnydd yn y gefnogaeth i'r blaid.

Yr Ymgyrch

Dyma'r ymgyrch gyntaf ers yr Ail Ryfel Byd i ganolbwyntio ar yr arweinydd ac nid y pleidiau.

Ymddangosodd Harold Wilson ar y teledu nifer o weithiau a gwelwyd ef yn ymweld gweithwyr y blaid ar hyd a lled y wlad.

Roedd yr arweinydd Rhyddfrydol newydd, sef Jeremy Thorpe, yn garismatig iawn a chynyddodd diddordeb y cyhoedd yn y blaid honno oherwydd hyn.

Dechreuodd y Toraid ymosod ar record economiadd Llafur a chynyddodd yr ymosodiadau wedi i Jim Callaghan, yr Ysgrifennydd Cartref, awgrymu y byddai cyflogau'n rhewi wedi'r etholiad.

Canolbwyntiodd y Toraid ar ymosod ar yr economi a'r cynnydd mewn prisiau drwy gydol yr etholiad.

Ymatebodd Llafur drwy ddweud y byddai Treth Ar Werth a threth incwm yn cynyddu o dan y Ceidwadwyr.

Enoch Powell eisiau gwled diwedd ar fewnfudo i Brydain
Enoch Powell eisiau gwled diwedd ar fewnfudo i Brydain
Mewn anerchiad cyn yr etholiad, pwysleisiodd Enoch Powell y dylid rhoi terfyn ar fewfudo i Brydain.

Beirniadodd Tony Benn, y Gweinidog Technoleg, hyn a dechreuodd y cyfryngau alw ar Edward Heath i atal Powell rhag ymgeisio am sedd yn yr etholiad.

Gwrthododd Edward Heath wneud hyn, ond fe bwysleisiodd nad oedd yn cytuno barn Enoch Powell ar y mater.

Yn y cyfamser roedd gan y Prif Weinidog broblem arall, sef streic y gweithwyr graffeg a oedd yn mynnu codiad cyflog.

O ganlyniad i'r streic, ni chafodd papurau newydd cenedlaethol eu cyhoeddi am bedwar diwrnod.

Wrth i'r ymgyrch fynd yn ei blaen roedd newyddiadurwyr yn troi'n erbyn y Ceidwadwyr.

Ond yn raddol dechreuodd pethau droi'n erbyn Llafur a newidiodd barn y cyhoedd wedi i ffigurau masnach ddangos diffygion.

Fely dyma brofi honiad y Ceidwadwyr na allai'r Blaid Lafur reoli'r economi, a dechreuodd y cyhoedd bryderu am ddyfodol yr economi yn nwylo Llafur.

Yn wythnos olaf yr ymgyrch cyhoeddwyd ffigurau'n dangos fod diweithdra'n uchel iawn ac roedd hyn yn cynyddu ofnau'r cyhoedd ymhellach.

Yn ystod yr ymgyrch lleihaodd y gwahaniaeth rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr yn y polau 'piniwn.

Ond er hyn roedd Llafur yn hyderus mai nhw fyddai'n ennill.

Roedd y rhan fwyaf o'r Ceidwadwyr hefyd yn ofni na fu eu rhybyddion ynglyn 'r economi yn ddigon cryf ac na allen nhw drechu poblogrwydd Harold Wilson.

Canlyniadau

Seddi

  • Llafur 288
  • Ceidwadwyr 330
  • Rhyddfrydwyr 6
  • Eraill 6

    Cyfran y pleidleisiau ym Mhrydain

  • Llafur 43.9%
  • Ceidwadwyr 46.2%
  • Rhyddfrydwyr 7.6%
  • Eraill 2.3%

    Y Ceidwadwyr enillodd ar y diwrnod mawr gyda buddugoliaeth ysgubol ac roedd newid o 4.7% tuag at y Ceidwadwyr.

    Dim ond chwe sedd enillodd y Rhyddfrydwyr a chanlyniadau gwael gafodd y pleidiau cenedlaethol yng Nghymru a'r Alban hefyd er gwaetha'u perfformiadau da yn yr is-etholiadau.

    Roedd y canlyniad yn sioc fawr i Lafur ac i'r cyhoedd hefyd.

    Yr hyn benderfynodd ganlyniad yr etholiad, mae'n debyg, oedd y nifer isel o bobl aeth allan i bleidleisio a'r ffigyrau masnach gwael a gafodd eu rhyddhau ychydig ddyddiau cyn yr etholiad.

    Roedd y ffigurau hyn yn cefnogi honiadau'r Ceidwadwyr y byddai'r economi'n dioddef pe byddai Llafur yn ennill eto.