Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Mercher, 9 Mai, 2001, 15:19 GMT
Etholiad 1966
Harold Wilson y Prif Weinidog newydd y tu allan i Downing Street
Harold Wilson y Prif Weinidog newydd y tu allan i Downing Street

Mawrth 31ain 1966

Enillodd Llafur yr etholiad hwn gydag un o'r mwyafrifoedd mwyaf mewn hanes a hynny o ganlyniad i arweinyddiaeth grefftus Harold Wilson ers 1964.

Ni allai arweinydd y Ceidwadwyr, Edward Heath gystadlu phoblogrwydd Wilson ac felly cafodd Llafur fuddugoliaeth fawr.

Cefndir

Wedi ennill etholiad cyffredinol 1964 o drwch blewyn roedd yn rhaid i Harold Wilson, Prif Weinidog Llafur, alw etholiad arall mor fuan phosib.

Drwy wneud hyn roedd yn gobeithio cynyddu ei fwyafrif o bedair sedd i rif digon mawr i lywodraethu.

Penderfynodd y Prif Wenidog gynnal etholiad ymhen10 mis am ei fod yn credu fod y wlad angen ychydig o amser i baratoi am frwydr wleidyddol arall.

Ond aeth Llafur i drafferthion yn Nhy'r Cyffredin am fod aelodau meinciau cefn y blaid yn anfodlon am fod y llywodraeth yn cefnogi ymyrraeth America yn rhyfel Fietnam.

Yn 1965 daeth Edward Heath i gymryd lle Syr Alec Douglas-Home fel arweinydd y Blaid Geidwadol.

Er bod y polau piniwn yn dangos nad oedd mor boblogaidd Wilson, llwyddodd i gael gwared o nifer o raniadau oedd wedi datblygu o fewn y blaid yn ystod cyfnod Syr Alec Douglas-Home.

Ym mis Ionawr 1966 cafodd Llafur fuddugoliaeth annisgwyl yn is-etholiad Gogledd Hull ac wedi hyn roedd y blaid yn teimlo'n hyderus wrth alw etholiad cyffredinol.

Yr Ymgyrch

Roedd yr holl arwyddion yn awgrymu buddugoliaeth i Lafur ac yn yr arolygon barn yn nechrau Mawrth roedd y llywodraeth 11 pwynt o flaen y Ceidwadwyr.

Yn eu maniffesto roedd Llafur yn pwysleisio'u llwydiannau yn y 18 mis blaenorol.

Crewyd cynllun trafnidiaeth cenedlaethol i wella'r ffyrdd a'r rheilffyrdd a chynllun adeiladu tai.

Ond yn bennaf roedd ymgyrch Llafur yn canolbwyntio ar Wilson ei hun.

Yn eu maniffesto nhw roedd y Ceidwadwyr yn cynnig chwyddiant isel, lleihau pwer yr undebau llafur a diwygio'r wladwriaeth les.

Edward Heath arweinydd newydd y Blaid Geidwadol
Edward Heath arweinydd newydd y Blaid Geidwadol
Dyma ymgyrch anodd i'r Ceidwadwyr gan eu bod yn ceisio ymladd yr etholiad fel gwrthblaid a hynny o dan arweinydd newydd.

Am y tro cyntaf ers 1955 parhaodd Ty'r Cyffredin i sefyll er bod etholiad cyffredinol wedi cael ei gyhoeddi.

Ar Fawrth 1af cyhoeddodd Llafur 'Gyllideb fechan' dan ofal y Canghellor Jim Callaghan.

Yn nyddiau cynnar yr ymgyrch ceisiodd Heath ddychryn y cyhoedd drwy ddweud y byddai Prydain yn ymuno 'r Farchnad Gyffredin.

Dywedodd Ysgrifennydd Tramor y llywodraeth nad oedd unrhyw fwriad i wneud hyn hyd nes y byddai'i bolisi amaethyddol wedi newid.

Roedd Harold Wilson yn benderfynol o gadw'r heddwch o fewn y Blaid Lafur ynglyn ag Ewrop.

Roedd eisiau crybwyll y Farchnad Gyffredin yn ei ymgyrch ond ni allai fforddio gwylltio meincwyr cefn y blaid.

Ar Fawrth 10fed gwnaeth Edward Heath ddatganiad pwysig yn yr ymgyrch gan ddisgrifio safle economiadd bregus Prydain fel "9-5-1" sef cynnydd o 9% mewn cyflogau, 5% mewn prisiau a 1% mewn cynhyrchiant.

Dywedodd fod y ffigyrau'n cyfleu sefyllfa drist economi Prydain ond ni chafodd hyn ddim effaith ar y pleidleiswyr.

Canlyniadau

Seddi

  • Llafur 364
  • Ceidwadwyr 253
  • Rhyddfrydwyr 12
  • Eraill 1

    Cyfran y bleidlais ym Mhrydain

  • Llafur 48.9%
  • Ceidwadwyr 41.4%
  • Rhyddfrydwyr 8.6%
  • Eraill 1.1%

    Llwyddodd Harold Wilson felly gyda'r dasg anodd o gynyddu'i fwyafrif yn y Llywodraeth.

    Enillodd Llafur 48 sedd a chollodd y Ceidwadwyr 51 ac er bod cyfran pleidleisiau'r Rhyddfrydwyr wedi gostwng fe lwyddon nhw i ennill dwy sedd ychwanegol.

    Bellach roedd gan Wilson a'i lywodraeth fwyafrif anhygoel o 96 ac roedd yn rhydd felly i lywodraethu'n llawn.