Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Mercher, 9 Mai, 2001, 15:10 GMT
Etholiad 1964
Harold Wilson yn ennill yr etholiad o drwch blewyn
Harold Wilson yn ennill yr etholiad o drwch blewyn

Hydref 15fed 1964

Erbyn hyn roedd arweinydd y Blaid Lafur, Harold Wilson, yn benderfynol o roi diwedd ar reolaeth y Tor´aid.

Roedd y Ceidwadwyr mewn llywodraeth ers 13 mlynedd ac erbyn hyn roedd y boblogaeth yn barod am newid.

Arweinydd y Ceidwadwyr erbyn hyn oedd Syr Alec Douglas-Home.

Nid oedd y boblogaeth yn gallu uniaethu ag ef gan ei fod yn aristocrat pur.

Y Blaid Lafur enillodd yr etholiad gyda mwyafrif bychan iawn ond dadleuai Wilson na fyddai hynny'n effeithio ar ei allu i lywodraethu.

Cefndir

Ers yr etholiad diwethaf yn 1959 roedd y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr wedi gostwng a hynny'n bennaf o ganlyniad i'r economi.

Yn 1962 diswyddodd Harold Macmillan saith aelod o'i gabinet er mwyn ceisio cynyddu poblogrwydd y llywodraeth ond ni fu hyn yn llwyddiant.

Gwaethygu wnaeth eu sefyllfa'r wedi i Arlywydd Ffrainc wrthod cais Prydain i ymuno Ô'r Farchnad Gyffredin.

Ar ben hyn bu'n rhaid i John Profumo, y Gweinidog Rhyfel, ymddiswyddo wedi iddo gyfaddef wrh y Senedd am ei berthynas Ô Christine Keeler.

Roedd y llywodraeth yn ymddangos yn fwy a mwy blinedig ac roedd y farn gyhoeddus yn newid yn raddol.

Yn 1964 bu'n rhaid i Harold Macmillan ymddiswyddo am fod ei iechyd yn dirywio a dewisiodd y Ceidwadwyr Syr Alec Douglas-Home fel eu harweinydd newydd.

Gan nad oedd ef yn boblogaidd ymhlith y cyhoedd roedd pethau'n edrych yn obeithiol iawn i'r Blaid Lafur.

Daeth Llafur yn ol i rym o dan Wilson gyda mwayfrif bychan iawn
Daeth Llafur yn ol i rym o dan Wilson gyda mwayfrif bychan iawn
Harold Wilson oedd arweinydd y blaid wedi marwolaeth annisgwyl Hugh Gaitskell yn 1962.

Dyma wleidydd galluog, ac yn fuan fe ddaeth yn arweinydd poblogaidd a charismataidd.

Wrth i arweinyddion y ddwy brif blaid baratoi ar gyfer yr etholiad roedd hi'n amlwg mai gan Wilson oedd y dylanwad mwyaf.

Roedd Syr Alec Douglas-Home wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa wleidyddol yn Nhy'r Arglwyddi ac felly nid oedd yn gyfarwydd Ô dadleuon gwleidyddol.

Roedd Harold Wilson yn wr galluog iawn ond er gwaetha'i lwyddiant fel arweinydd lleihau wnaeth cefnogaeth y Blaid Lafur yn yr polau piniwn.

Yr Ymgyrch

Penderfynodd Syr Alec fynd ar daith o gwmpas y wlad yn lle defnyddio'r teledu i drosglwyddo'i neges a bu hyn yn gamgymeriad.

Roedd ymgyrch Llafur wedi'i ganoli o gwmpas Harold Wilson a oedd yn cael ei bortreadu fel dyn y bobl.

Canolbwyntiodd Llafur ar faterion cartref ac roedd hwn yn fan gwan i arweinydd y Ceidwadwyr gan ei fod yn gyn-Ysgrifennydd Tramor.

Rhoddodd Llafur flaenoriaeth i gynllunio economiadd a newid gwyddonol ac addawyd gweinidogaethau newydd ar gyfer Cymru, a datblygiad tramor.

Roedd ymgyrch y Rhyddfrydwyr yn canolbwyntio ar Brydain ffederal mewn Ewrop ffederal.

Yn nechrau'r 60au gwelwyd cynnydd yn y pleidleisiau i'r blaid honno am fod pobl yn dechrau blino ar y Ceidwadwyr ac yn amharod i droi at Lafur.

Yn yr etholiad hon roedd ganddyn nhw ymgeiswyr ymhob etholaeth ac fe lwyddon nhw i gynnal ymgyrch ffyrnig am y tro cyntaf ers 1950.

Erbyn diwedd mis Medi roedd yr polau piniwn yn dangos fod y Ceidwadwyr ar y blaen i Lafur ond wedi i Harold Wilson ymosod ar bolis´au economaidd y Tor´aid gostwng wnaeth eu cefnogaeth.

Canlyniadau

Seddi

  • Llafur 317
  • Ceidwadwyr 304
  • Rhyddfrydwyr 9
  • Eraill 0

    Cyfanswm y pleidleisiau ym Mhrydain

  • Llafur 44.8%
  • Ceidwadwyr 42.9%
  • Rhyddfrydwyr 11.4%
  • Eraill 0.9%

    Enillodd Llafur o fwyafrif bychan iawn sef pedair sedd, y mwyafrif lleiaf ers 1847.

    Er fod y newid tuag at Lafur wedi bod yn 3.5% ni chynyddodd eu cyfran o'r bleidlais mewn gwirionedd.

    Nid oedd y newid yn y rhanbarthau yn gyson oherwydd er bod y Tor´aid wedi gwneud yn dda yng nghanolbarth Lloegr symudodd Llundain a'r de ddwyrain tuag at Lafur.

    Gwnaeth y Rhyddfrydwyr yn dda yn yr Alban a llwyddon nhw i ddyblu eu pleidleisiau yn yr etholiad hwn eto er mai dim ond naw sedd a enillwyd ganddyn nhw.

    Arweinyddiaeth Harold Wilson oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Llafur gan ei fod wedi profi'n boblogaidd iawn ymhlith y cyhoedd.

    Roedd Douglas-Holme yn beio'r teledu am ganlyniad yr etholiad
    Roedd Douglas-Holme yn beio'r teledu am ganlyniad yr etholiad
    Hefyd roedd nifer o gefnogwyr y Ceidwadwyr wedi dewis aros adref ar ddiwrnod yr etholiad.

    Roedd y Tor´aid yn beio personoliaeth Syr Alec Douglas-Home am ganlyniad yr etholiad.

    Hefyd beirniadwyd ymgyrch y Ceidwadwyr o fethu ag ysbrydoli ffyddloniaid y blaid.

    Beiwyd y Canghellor Reginald Maudling o fethu ag amcangyfrif cost yr hyn oedd yr oedd Llafur yn ei gynnig yn eu maniffesto yn ddigon cyflym.

    Felly daeth Llafur i rym am y tro cyntaf ers 1951 er mai o drwch blewyn oedd hynny.

    Doedd y mwyafrif ddim yn ddigon mawr i sicrhau y gallai Wilson gyflwyno unrhyw ddeddfwriaethau mawr i Dy'r Cyffredin, felly penderfynodd gynnal etholiad arall yn fuan.