Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Mercher, 9 Mai, 2001, 15:03 GMT
Etholiad 1959
Harold Macmillan yn ennill y nifer mwyaf o bleidleisiau
Harold Macmillan yn ennill y nifer mwyaf o bleidleisiau

Hydref 8 fed 1959

Enillodd y Ceidwadwyr yr etholiad hwn a daeth Harold Macmillan yn Brif Weinidog.

Dyma drydydd tymor y Ceidwadwyr yn olynol mewn llywodraeth.

Roedd pobol Prydain felly'n ddigon hapus i roi'r grym iddyn nhw unwaith eto er bod gan Lafur arweinydd newydd sef Hugh Gaitskell.

Cefndir

Ym mis Ionawr 1957 cafodd Syr Anthony Eden, y Prif Weinidog ac arweinydd y Ceidwadwyr ei orfodi i ymddiswyddo oherwydd ei iechyd ac am nad oedd wedi ymdrin ag argyfwng Suez yn effeithiol.

Felly daeth Harold Macmillan, y Canghellor, yn Brif Weinidog yn ei le.

Tony Benn yn trefnu'r ymgyrch ar ran y Blaid Lafur
Tony Benn yn trefnu'r ymgyrch ar ran y Blaid Lafur
Roedd dwy flynedd rhwng y cyfnod pan ddaeth Harold Macmillan i rym a'r etholiad cyffredinol nesaf.

Y ystod y ddwy flynedd dangosodd Harold Macmillan ei fod yn gallu gwneud gwyrthiau.

Pan ddaeth i rif 10 roedd Llafur 13 pwynt ar y blaen yn yr arolygon barn ond erbyn cyfnod yr etholiad y Ceidwadwyr oedd ar y blaen o saith pwynt.

Yn 1955 ymddiswyddodd Clement Attlee fel arweinydd y Blaid Lafur wedi i'r blaid gael eu trechu mewn dwy etholiad yn olynol.

Daeth Hugh Gaitskell yn arweinydd yn ei le ac aeth ati i geisio cael gwared o'r rhaniadau oedd o fewn y blaid.

Am y tro cyntaf ers bron i ddeng mlynedd roedd buddugoliaeth yn bosib i Lafur.

Prif frwydr yr etholiad oedd yr economi ac o dan Harold Macmillan roedd yr economi wedi gwella.

Erbyn hyn roedd pobol Prydain yn gallu fforddio nwyddau fel teledu a cheir.

Yr Ymgyrch

Yn eu hymgyrch nhw ceisiodd y Ceidwadwyr argyhoeddi pobol Prydain na fu eu bywydau erioed mor llewyrchus.

Roedden nhw'n annog pleidleisiwyr i gredu fod bywyd yn well o dan y Ceidwadwyr ac na ddylen nhw adael i Lafur ddifetha hynny.

Nid oedd maniffesto'r Ceidwadwyr yn cynnig llawer ar wahn i greu Gweinidog Gwyddoniaeth newydd.

Roedd maniffesto Llafur yn cynnig cynnydd mewn pensiynau a chynyddu'r nifer o dai rhent ym Mhrydain.



Tony Benn oedd y tu l i ymgyrch Llafur a defnyddiodd y blaid y teledu i gyflwyno Gaitskell fel Prif Weinidog newydd Prydain.

Manteisiodd Macmillan ar y teledu hefyd gan lwyddo i gael llawer o amser darlledu.

Yn ei anerchiad olaf llwyddodd Macmillan i ddenu'r gyfran uchaf o wylwyr yn ystod yr ymgyrch.

Yn ystod y cyfnod pwysig hwn dangosodd Macmillan ei fod yn wleidydd mwy medrus na Gaitskell.

Roedd ymgyrch y Rhyddfrydwyr yn gryfach y tro hwn nag yn yr etholiadau blaenorol.

Fe ymgeision nhw am 210 sedd o'i gymharu 110 yn 1955.

Canlyniadau

Seddi

  • Ceidwadwyr 365
  • Llafur 258
  • Rhyddfrydwyr 6
  • Eraill 1

    Nifer y pleidleisiau

  • Ceidwadwyr 48.8%
  • Llafur 44.6%
  • Rhyddfrydwyr 6.0%
  • Eraill 0.6%

    Daeth Macmillan yn Brif Weinidog felly mwyafrif o dros 100 sedd ond bu gostyngiad yng nghyfran pleidleisiau'r Ceidwadwyr i 49%.

    Gostwng wnaeth cyfran Llafur o'r pleidleisiau hefyd o 46% i 43%.