BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Vote2001: Etholiad2001
Tudalen flaen 
Etholiad 2001 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Llun, 11 Mehefin, 2001, 09:53 GMT
ETHOLIAD2001


10 Downing Street Blair yn galw etholiad ym mis Mehefin
Mewn ysgol yn ne Llundain fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd yr Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ar 7 Fehefin.
Audio sain     Video fideo

Bellach y Cynulliad sy'n gyfrifol am nifer o faterion Cymru'n paratoi
Mae gwleidyddion Cymru'n paratoi ar gyfer yr etholiad cyntaf yng Nghymru wedi datganoli.

Mae Plaid Cymru am ddenu mwy o bobl i ffermio Materion Gwledig
Dyma fater sydd wedi'i ddatganoli ond er hyn mae'n debyg y bydd ar flaen yr agenda oherwydd Clwy'r Traed a'r Genau.

Cyfraith a Threfn
Mae'r Blaid Lafur yn dweud hefyd eu bod nhw wedi dwblu'r gwariant ar wasanaethau i droseddwyr ers iddyn nhw ddod i rym yn 1997.

Trafnidiaeth
Mae'r llywodraeth wedi wynebu tipyn o broblemau ym maes trafnidiaeth ac yn sicr fe fydd y hyn ar flaen yr agenda yn yr etholiad.

Yr amgylchedd
Mae'r Blaid Lafur yn honni ei bod wedi dod i rym yn 1997 gyda mwy o gynlluniau amgylcheddol nac unrhyw un o'r prif bleidiau eraill.

Yr economi
Mae Llafur am i'r economi gael rl allweddol yn yr etholiad cyffredinol ac yn eu barn nhw yn y maes hwn y bydd y frwydr fwyaf.

Iechyd
Mae iechyd yn fater wedi ei ddatganoli ond mae San Steffan yn dal i fod yn gyfrifol am reoli'r gwasanaeth a swyddi.

Addysg
Mae addysg yn fater sydd wedi ei ddatganoli felly ni fydd yn cael ei drafod yn ymgyrch y pleidiau yng Nghymru yn ystod yr etholiad cyffredinol.

Dylanwad y Wasg
Dros y blynyddoedd mae'r wasg wedi cael dylanwad ar dueddiadau pleidleisio.

Cst gohirio'r etholiad
Yn l y prif bleidiau maen nhw'n barod am yr etholiad a dydi hyn yn ddim syndod o ysytried y cyfanswm o arian sy'n cael ei wario ar yr ymgyrch.

Effaith Clwy'r Traed a'r Genau
Yn y diwedd fe aeth yn groes i gyngor nifer o'i gyd-weithwyr a phenderfynu gohirio'r etholiad ym mis Mehefin.

Arolygon yn dangos na fydd newid yng Nghymru yn Etholiad 2001



Ymgyrchoedd hir yn diflasu pleidleiswyr
Yn etholiad cyffredinol 1997 fe welwyd y cyfnod hiraf o ymgyrchu mewn gwleidyddiaeth fodern.

Difaterwch etholwyr
Mae poblogaeth Prydain yn ddifater iawn ac yn etholiad 1997 ychydig iawn aeth allan i bleidleisio, y cyfanswm lleiaf ers 1935.

Plaid Sosialaidd Yr Alban (SSP)
Mae'r blaid yn cefnogi annibyniaeth ac yn brwydro am weriniaeth sosialaidd yn Yr Alban ac maen nhw am weld y boblogaeth yn derbyn rheolaeth o gyfoeth ac adnoddau'r wlad.

Plaid Werdd Yr Alban
Mae Plaid Werdd Yr Alban yn cefnogi'r syniad o ehangu pwerau'r senedd hyd at annibyniaeth ond maen nhw'n cydnabod fod San Steffan yn dal yn bwysig yn arbennig o ystyried materion 'gwyrdd' fel egni niwclear.

Plaid Genedlaethol Yr Alban (SNP)
Mae'r blaid yn portreadu'i hun fel plaid sy'n cefnogi annibyniaeth i'r Alban ac mae wedi llwyddo i ddod yn brif wrthblaid o fewn Senedd yr Alban lle mae ganddi 35 sedd.

Y Democratiaid Rhyddfrydol yn Yr Alban
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn llwyddiannus Yr Alban yn ddiweddar ac maen nhw wedi llwyddo o ganlyniad i dargedu seddi'n ofalus ac ymgyrchu'n galed yn lleol.

Y Blaid Geidwadol yn Yr Alban
Ni lwyddodd y Ceidwadwyr i ennill yr un sedd yn Yr Alban yn etholiad 1997 ac ni all pethau fynd dim gwaeth i'r blaid yma yn yr etholiad cyffredinol eleni felly.

Y Blaid Lafur yn Yr Alban
Fe fu'r Blaid Lafur yn llwyddiannus iawn yn etholiad cyffredinol 1997 gan ennill 56 o'r 72 o seddi yno ond nid yw'n debygol y byddan nhw'n ennill mwy o seddi eleni ac felly amddiffyn y seddi sydd ganddyn nhw'n barod y byddan nhw.

Plaid Gynghreiriol Gogledd Iwerddon
Dyma brif blaid an-sectyddol Gogledd Iwerddon a sefydlwyd yn 1970 ac mae'i aelodau'n cynnwys Pabyddion a Phrotestaniaid

Plaid Unoliaethol y Deyrnas Unedig
Mae'r blaid yn credu y dylai Gogledd Iwerddon ddod yn fwy Prydeinig drwy gael ei ymgorffori yn strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig.

Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon
Datblygodd Plaid Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon o ganlyniad i rwyg o fewn Plaid Unoliaethol y Deyrnas Unedig.

Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd
Dyma'r blaid sydd fwyaf gwrthwynebus tuag at Gytundeb Dydd Gwener y Groglith gan ei bod yn ei ystyried fel bygythiad i Ogledd Iwerddon ac i Brydeindod.

Plaid Unoliaethol Ulster



Y Blaid Lafur Ddemocrataidd a Chymdeithasol
Dyma'r Blaid Genedlaethol fwyaf yng Ngogledd Iwerddon a Phabyddion yw'r rhan fwyaf o'i chefnogwyr.

Sinn Fein
Ystyrir Sinn Fein fel asgell wleidyddol yr IRA ac mae wedi cefnogi ymdrech dreisgar yr IRA ar hyd y blynyddoedd.

Pleidiau Gogledd Iwerddon
Yma cewch hanes y pleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon a'u safbwyntiau gwahanol am y broses heddwch.

Cymru Annibynnol
Un o brif amcanion y blaid hon yw ennill annibyniaeth cyfansoddiadol i Gymru.

Cynghrair y Sosialwyr Cymreig
Mae Cynghrair y Sosialwyr Cymreig yn glymblaid sy'n cynnwys y pleidiau a'r mudiadau sosialaidd yng Nghymru.

Y Blaid Lafur
Bwriad y blaid newydd oedd ethol gweithwyr i'r senedd er mwyn cynrhychioli'r dosbarth gweithiol a'r mudiad Llafur.

Y Blaid Geidwadol
Mae'r blaid yn honni mai hi yw'r blaid wleidyddol hynaf yn Ewrop ond mae wedi wynebu llawer o broblemau yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Y Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Ffederal yw hon gyda phleidiau unigol yn Lloegr, yr Alban a Chymru, ond mae cyfundrefn etholiadol Prydain wedi bod yn rhwystr iddi yn ddiweddar.

Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru yn gobeithio torri trwodd y tu allan i'w cadarnleodd Cymraeg yn yr etholiad cyffredinol hwn.

Pleidiau gwleidyddol Cymru
Pedair prif blaid sydd yng Nghymru ar hyn o bryd sef Llafur, y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru.

Yr etholiad cyntaf wedi datganoli
Fe fydd yr etholiad cyffredinol yn un diddorol iawn gan mai dyma'r etholiad cyntaf wedi datganoli.

Newid mewn tueddiadau pleidleisio yng Nghymru?
Mae'r etholiad cyffredinol eleni yn un arwyddocaol iawn yng Nghymru gan mai dyma'r etholiad cyffredinol cyntaf ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.

Brwydr yr etholiad yng Nghymru
Bydd brwydr yr etholiad cyffredinol yng Nghymru eleni yn un unigryw.

Gorllewin Clwyd
Mae etholaeth Gorllewin Clwyd yn gorwedd yng nghanol gogledd Cymru, gyda gwrthgyferbyniad rhwng trefi'r arfordir a'r berfeddwlad..

Canol Caerdydd
Er yn sedd fach yn ddaearyddol, mae iddi chwe deg mil o etholwyr

Elfyn Llwyd: Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan
Cafodd Elfyn Llwyd ei ethol i San Steffan yn 1992 fel olynydd i Dafydd Elis -Thomas wedi iddo ef benderfynu gadael Ty'r Cyffredin.

Paul Murphy: Ysgrifennydd Cymru
Dyma wr a oedd yn gwrthwynebu datganoli yn 1979 a rhyfedd felly oedd ei weld yn cael ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol pan sefydlwyd y Cynulliad.

Proffil - Lembit Opik
Mae wyneb Lembit Opik yn gyfarwydd iawn gan ei fod wedi ymddangos ar nifer o raglenni sgwrs a dychan a hyd yn oed rhaglenni coginio.

Nigel Evans: Trefnydd etholiadol y Toraid yng Nghymru
Ymgeisiodd Nigel Evans am y sedd yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn ganlynol a llwyddodd i'w hennill.

Ieuan Wyn Jones: Arweinydd Plaid Cymru
Pwy yw Ieuan Wyn Jones? Problem fwyaf Llywydd Plaid Cymru yw nad yw llawer o bobl yn ei adnabod.

Arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru
Ers yr etholiad diwethaf mae pob un o'r prif bleidiau yng Nghymru wedi gweld newid yn eu harweinyddiaeth.

Ynys Mn
Ynys wledig yw Ynys Mn yn bennaf, gyda rhai diwydiannau trymion yn ardal Caergybi, lle mae'r porthladd fferi yn un o'r prif gyflogwyr.

Pontypridd
Mae'r etholaeth yn cynnwys hen gymunedau glofaol, ac mae yna amrywiaeth o ddiwydiannau newydd.

Wrecsam
Dyma'r dref fwyaf yng Ngogledd Cymru, ac mae'n ganolfan ranbarthol bwysig yn y Gogledd Ddwyrain.

Torfaen
Dyma sedd ddiogel iawn i Lafur ble bu Leo Abse yn aelod am dros ugain mlynedd cyn i Paul Murphy gael ei ethol yn 1987.

Sir Drefaldwyn
Sedd wledig yn y Canolbarth ger y ffin Lloegr, yn cynnwys trefi'r Trallwng a'r Drenewydd.

Rhondda
Un o gadarnleoedd y Blaid Lafur. Bu'n sedd Lafur swyddogol er 1910, ac yn sedd sosialaidd ddiogel cyn hynny.

Preseli Penfro
Crwyd y sedd yn 1997, gan gymryd rhannau o Geredigion a Gogledd Penfro ac etholaeth Penfro.

Pen-y-bont ar Ogwr
Rhaid ystyried yr etholaeth fel sedd ddiogel i Lafur yn San Steffan.

Ogwr
Mae'r etholaeth, yn nodweddiadol o'r cymoedd, gyda diweithdra uchel a phroblemau cymdeithasol a ddaeth yn sgil tranc y diwydiant glo.

Mynwy
Dyma'r etholaeth fwyaf cyfoethog a Seisnig yng Nghymru.

Merthyr Tudful a Rhymni
Un o gadarnleoedd y Blaid Lafur yn y de. Yma yr etholwyd aelod seneddol cyntaf y Blaid Lafur, Keir Hardie.

Meirionnydd Nant Conwy
Mae'n etholaeth fawr yn ddaearyddol ond mae nifer yr etholwyr gyda'r lleiaf yng Nghymru a Lloegr - llai na hanner y cyfartaledd yn Lloegr.

Llanelli
Llanelli yw'r dref fwyaf yn Sir Gaerfyrddin, yng nghornel de-ddwyreiniol y sir.

Islwyn
Hen ardal lofaol yn Ne Ddwyrain Cymru yw Islwyn a than etholiadau'r Cynulliad roedd yn sedd ddiogel i Lafur.

Gorllewin Clwyd
Mae natur yr etholwyr yn newid yn ddramatig, o'r pensiynwyr Seisnig ar yr arfordir i'r brodorion Cymraeg eu hiaith ymhellach o'r mr.

Gorllewin Casnewydd
Crwyd Dwyrain Casnewydd yn 1983, ac fel y cyn etholaeth, Casnewydd, yn deyrngar iawn i'r Blaid Lafur, ag eithrio rhwng 1983 ac 1987, pan gynrychiolwyd yr etholaeth yn San Steffan gan Geidwadwr.

Gorllewin Caerdydd
Mae yma drawsdoriad cymdeithasol eang iawn, yn cynnwys stadau tai cyngor, ardaloedd yng nghanol y ddinas a maestrefi llewyrchus.

Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
O ran yr economi mae'n ardal amaethyddol ond hefyd yn ardal lle mae'r diwydiant ymwelwyr yn bwysig.

Gorllewin Abertawe
Ac eithrio cyfnod byr (1959-1964) pan etholwyd Ceidwadwr, bu'r sedd yn ddiogel yn nwylo'r Blaid Lafur ers yr Ail Ryfel Byd.

Gogledd Caerdydd
Ardal dosbarth canol yn bennaf, a'r etholwyr ar y cyfan yn hn ac yn heneiddio.

Dyffryn Clwyd
Mae'r etholaeth yn cynnwys trefi glan y mr Prestatyn a'r Rhyl, sy'n dylanwadu'n drwm ar ei natur gymdeithasol ac economaidd.

Dwyrain Casnewydd
Mae'r sedd yn cynnwys rhan o dref Casnewydd, a gwaith dur enfawr Llanwern y mae ei berchnogion, Corus, eisiau eu gau.

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Mae'r sedd wedi newid dwylo droeon dros y blynyddoedd a hen etholaeth Caerfyrddin oedd y gyntaf i Blaid Cymru ei hennill yn San Steffan.

Dwyrain Abertawe
Dyma lle ceir prif ardaloedd diwydiannol y ddinas, y dociau a nifer o stadau tai cyngor mawr.

Delyn
Etholaeth wedi'i chreu yw Delyn nad yw'n cyfateb i ffiniau hanesyddol naturiol na rhaniadau cymdeithasol.

De Clwyd
Crwyd y sedd yn 1997, pan gyfunwyd ardal amaethyddol, Cymraeg ei hiaith yn ne'r hen sir Clwyd ac ardaloedd Maelor ger Wrecsam, ar y ffin Lloegr.

De Caerdydd a Phenarth
Llafur sydd wedi rheoli yma ers tro, ac mae'r aelodau seneddol wedi dringo'n uchel o fewn gwleidyddiaeth Prydain a Chymru.

Cwm Cynon
Dyma un o'r seddau Llafur mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig ac nid yw'r gwrthbleidiau wedi gwneud dim argraff mewn Etholiadau Cyffredinol.

Conwy
Yn etholiad San Steffan dyma sedd ymylol, gyda Llafur, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymgiprys amdani.

Ceredigion
Yn draddodiadol, un o gadarnleoedd y Rhyddfrydwyr oedd Ceredigion (yr hen Sir Aberteifi), ond bellach mae'n sedd ddiogel i Blaid Cymru.

Castell Nedd
Sedd Lafur yw hon sy'n cynnwys Castell Nedd a chymoedd Tawe a Nedd.



Canol Caerdydd
Mae canol y ddinas yn ardal fusnes bwysig ac yma hefyd mae Coleg y Brifysgol.

Caernarfon
Dyma'r etholaeth fwyaf Cymraeg ei hiaith yng Nghymru ac mae'n sedd ddiogel i Blaid Cymru.

Caerffili
Dros y blynyddoedd bu hon yn sedd Lafur ddiogel ac ers 1983 Ron Davies fu'n cynrychioli'r etholwyr yn San Steffan.

Brycheiniog a Maesyfed
Yn ddaearyddol dyma'r sedd fwyaf yng Nghymru, ac mae'n sedd ymylol rhwng tair plaid.

Bro Morgannwg
Sedd Geidwadol fu hon am flynyddoedd nes i Lafur ei chipio mewn is-etholiad yn 1989.

Bro Gwyr
Mae'r etholaeth yn cynnwys Penrhyn Gwyr, ardal o brydferthwch naturiol arbennig sy'n denu llawer o ymwelwyr.

Blaenau Gwent
Un o gadarnleoedd y Blaid Lafur yng Nghymoedd De Cymru.

Aberafan
Etholaeth ddiwydiannol, a thyrau myglyd y gwaith dur gerllaw yn denu'r sylw.

ETHOLIADAU'R GORFFENNOL
Mae'r blynyddoedd ers yr Ail Ryfel Byd wedi gweld sawl canlyniad dramatig wrth i'r pleidiau ymgiprys i ffurfio llywodraeth y Deyrnas Unedig.



Etholiadau'r Gorffennol



Pleidiau Cymru



Etholaethau Cymru



Pynciau Llosg



Yr Arweinwyr Cymreig


Y Cynulliad Cenedlaethol
a'i effaith ar wleidyddiaeth Gymreig

Yr Alban
Beth yw safbwyntiau'r pleidiau yma?

Gogledd Iwerddon
Y pleidiau gwleidyddol

Dylanwad y wasg
Beth yw grym papurau fel y Sun?

Yr Etholiad Cyffredinol
Newyddion, dadansoddiad, trafodaethau ac ymateb yn Saesneg