Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd | Clecs Cymru

BBC News Online: Newyddion


Dydd Iau, 22 Mehefin, 2000, 11:06 GMT

Laura Ashley'n gwerthu nwyddau dros y we


Laura Ashley logo
Mae cwmni dillad Laura Ashley wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau gwerthu eu cynnyrch dros y we.

Daw'r cyhoeddiad am ddyfodol y cwmni Cymreig yn sgil cytundeb rhwng Laura Ashley a chwmni rhyngrwyd Blueberry.net Ltd.

Bydd gwasanaeth arlein y cwmni yn cychwyn yn yr Hydref.

Dywedodd Prif Weithredwr y grwp, Kwan Cheong Ng: "Rydym yn hapus iawn gyda'r perfformiad diweddar."

Mae'r cwmni wedi cyhoeddi busnes archebu drwy'r post sydd yn llwyddiannus a bydd hyn yn ehangu i fod yn gyfrifol am yr archebion arlein.

Cadw ffatrïoedd Cymru

Ar yr un pryd, mae'r cwmni wedi penderfynu cadw eu ffatrïoedd sy'n cynhyrchu nwyddau i'r cartref yn y Drenewydd a Charno.

Mae gwerthiant cynnyrch nwyddau i'r cartref wedi cynyddu dros y misoedd diwetha'.

Wrth i'r canolbarth dderbyn newyddion da mae gwaith 300 o bobol yn saff.

Mae gwerth cyfranddaliadau cwmni Laura Ashley wedi codi ar ôl iddyn nhw gyhoeddi y byddan nhw'n dechrau gwerthu eu nwyddau ar y we.

Mae'r cwmni wedi wynebu nifer fawr o broblemau ariannol yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi dod ag ansicrwydd i ardal wledig canolbarth Cymru.

Cychwynnodd y cwmni yn un llwyddiannus iawn yn y 70au ond erbyn y 90au roedd y cynlluniau blodeuog nodweddiadol o'r cwmni allan o ffaswin ac fe gafwyd cryn broblemau ariannol.

Mae'r cwmni wedi cau pum ffatri yng Nghymru ac un yn yr Iseldiroedd.



Cysylltiadau Rhyngrwyd: Cyngor Sir Powys | Laura Ashley (Saesneg) |
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.
Tudalen flaen | BBC Cymru'r Byd | Clecs Cymru