Saesneg fydd iaith y papur hwnnw mae'n sïwr, achos does 'na'r un papur dyddiol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dim ond ar y we ar dudalennau'r BBC y cewch chi newyddion dyddiol ysgrifenedig yn Gymraeg.
Wel tybed allai hynny newid?
Achos mae 'na waith ymchwil yn cael ei wneud ar hyn o bryd i geisio darganfod os fydde 'na ddiddordeb gan bobol Cymru mewn prynu papur dyddiol Cymraeg.
Mae'r Western Mail yn gwerthu bron i 70,000 o gopïau o'r papur bob dydd yn y de, a'r Daily Post yn gwerthu 46,000 yn ardal y gogledd.
Gyda grant oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd o £60,000, dros y flwyddyn nesaf, fe fydd cwmni Mercator ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth yn gwneud gwaith ymchwil i geisio darganfod a fyddai pobol yn barod i danysgrifio i bapur o'r fath.
Holiaduron
Fel rhan o'r ymchwil, mae holiaduron wedi cael eu dosbarthu ar bapur ac ar y we i bob cwr o Gymru.
Yn ôl Ned Thomas o gwmni Mercator, mae'r canlyniadau hyd yn hyn yn galanogol, ond rhai atebion yn wahanol i'r disgwyl.
Mae John Roberts Williams, cyn-olygydd papur newydd Y Cymro, ac un sy'n frwd dros gael papur newydd dyddiol Cymraeg, o'r farn nad ydy'r papurau dyddiol presennol yn cynrychioli'r Cymry Cymraeg yn iawn.
Wrth siarad gyda nifer o bobol sydd â diddordeb yn y cynllun yma, un syniad sy'n cael ei gynnig dro ar oll tro ydy cynnal papur newydd dyddiol ar y we.
Ond dydy Mr Thomas ddim yn credu y byddai'r fenter honno'n llwyddo.
"Dwi'n gweld sawl budd i'r we ond dydy o ddim yn ffordd o wneud incwm wrth gyhoeddi papur ar y we."
Bydd y gwaith o gasglu'r holiaduron yn dod i ben fis Awst nesaf.
Bwriad cwmni Mercator ydy sefydlu cwmni cydweithredol i weithio ar gynllun busnes, allai yn y pen draw wireddu breuddwyd nifer o weld papur dyddiol Cymraeg ar y bwrdd brecwast bob bore.