Mae'r gofeb, yng ngerddi Canon Street, yn dwyn i gof sefyllfa erchyll alltudiaeth a marwolaeth Catrin.
Caiff ei dadorchuddio ddiwrnod ar ôl Dydd Owain Glyndwr.
Cipiwyd Catrin Glyndwr a'i phlant, dwy ferch a bachgen, o Gastell Harlech ym 1409 yn ystod gwrthryfel Glyndwr dros annibyniaeth Cymru.
Aethpwyd â Catrin a'i phlant i Dwr Llundain yn wystlon.
Er nad oes tystiolaeth sut y buon nhw farw, credir fod Mynwent San Swithin lle'u claddwyd nhw o dan erddi Canon Street.
Cymdeithas Gymraeg Llundain sy'n cyflwyno'r gofeb.
Teulu Monnington
Mae nifer fawr yng Nghymru a Chymry Llundain, gan gynnwys Cymry blaenllaw'r y Ddinas, o blaid y gofeb.
Cydlynir y cynllun gan Isabel Monnington-Taylor, sy'n hanu o deulu Monnington, Swydd Henffordd.
Priododd merch arall Owain Glyndwr aelod o deulu Monnington oedd yn gysylltiedig â'r gwrthryfel.
Mae sôn fod Owain Glyndwr wedi ei gladdu yn Llys Monnigton, Swydd Henffordd.
Dywedodd Ms Monnigton-Taylor: "Yn dilyn dathliadau coffau 600 mlynedd ers gwrthryfel Owain Glyndwr yng Nghymru llynedd, fe benderfynon ni godi cofeb yn Llundain i goffáu Catrin Glyndwr.
Carreg las
"Dyma gyfle i ni yn Llundain i gofio Catrin a'i phlant, a'u dioddefaint yn ystod y cyfnod cythryblus yma yn hanes Cymru."
Cafodd y gofeb ei chynllunio gan Nic Stradlyn Jones, dylunydd ac artist o Bontypridd, ac fe'i cerfir o garreg las Gelli Gaer.
Mae'r cynllun ar ffurf naturiolaidd, luniaidd.
Mae'r llinell lefn o waelod y garreg i'r blaen pres yn awgrymu dau ffigwr: mam yn gwarchod ei phlentyn.
Mae'r cerflun yn cynrychioli dioddefaint menywod a phlant mewn rhyfel yn ogystal ag ysbryd oesol Cymru.
Richard Renshaw o Gwmdu ger Crughywel sydd wedi gweithio'r garreg.
Mae'n saer maen dawnus ac mae ei waith wedi ymddangos mewn arddangosfeydd ledled Prydain.
Ysgrif mewn dwy iaith
Mae dwy arysgrif ar y garreg wedi eu cyfansoddi gan Menna Elfyn - un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg.
Bydd plant o Ysgol Ardudwy Harlech ac aelodau Côr Meibion Cymry Llundain yn cymryd rhan yn y seremoni dadorchuddio hefyd.
Mae'r prif gymdeithasau Cymreig Llundain sy'n gysylltiedig â'r seremoni yn cynnwys Cymdeithas y Cymrodorion, SWS, Clwb Rygbi Cymry Llundain a'r Ysgol Gymraeg.
Bydd enwau unrhyw gyfranwyr tuag at y gofeb yn cael eu cynnwys mewn rholyn goffâd mewn capsiwl amser o dan y garreg goffa.
![]() |
![]() |