Ond roedd y gwasanaeth yn gyfle i feddwl am bron i 500 o lowyr i gyd.
Cafwyd trychineb arall ym mhwll Senghennydd, yn 1913.
Lladdwyd dros 400 o lowyr bryd hynny a chafodd enw Senghennydd le'n llyfrau hanes y diwydiant glo am y rhesymau mwya trasig posib.
Daeth plant Ysgol Gynradd Ifor Bach - rhai'n ddisgynyddion hen lowyr Senghennydd - i ganu Cân y Glowr fel rhan o'r gwasanaeth syml i gofio'r hyn ddigwyddodd ar 24 Mai 1901.
Mi osodon nhw dorchau i gofio'r 81 o ddynion gollodd eu bywydau a'r 230 o blant gollodd eu tadau.
Roedd dydd Iau'n gyfle i'r hen gofio tra bod y to iau'n dysgu mwy am eu hanes.
Mae arddangosfa yng Nghanolfan Gymunedol Senghennydd yn cynnwys yr unig lun o'r unig ddyn i oroesi'r drychineb gynta.
Roedd William Harris yn edrych ar ôl ceffylau'r pwll.
Llosgi'n ddifrifol
Cwympodd un arno fo ar ôl y ffrwydriad gan achub ei gorff rhag y fflamau er i'w wyneb gael ei losgi'n ddifrifol.
Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys lluniau o'r ail drychineb yn 1913.
Bu farw 439 o ddynion, gan adael cannoedd o weddwon am nad oedd safonau diogelwch wedi gwella'n ddigonol ar ôl y ffrwydriad cyntaf.
Roedd dydd Iau'n ddiwrnod emosiynol yn Senghennydd.
Mae'r pwll lle bu farw cymaint o ddynion wedi hen fynd ond mae yna gofeb barhaol yn ei le.
Daw pobol Senghennydd yma bob blwyddyn i gofio'r rhai gafodd eu colli.
![]() |
![]() |