British Broadcasting Corporation

Help / Cymorth

Safleoedd BBC Lleol

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Awst 2010, 13:49 GMT 14:49 UK
Grŵp o'r Wyddgrug ar y brig

Gan Papur Fama
Papur bro'r Wyddgrug

The Joy Formidable
Aelodau o'r grŵp The Joy Formidable o'r Wyddgrug

Wedi cryn lwyddiant dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, a llawer o deithio, ymddangosodd y grŵp lleol The Joy Formidable gyda'r enwau mawr yng ngŵyl Penwythnos Fawr Radio Un yn y Faenol ym Mai 2010.

Tri aelod sydd yn y band, dau ohonynt yn blant Yr Wyddgrug a chyn ddisgyblion Ysgol Maes Garmon - Rhydian Dafydd a Rhiannon Bryan - a'r trydydd, sef Matt y drymiwr, o Wolverhampton.

Profiad cyffrous iddynt oedd cael perfformio mewn gŵyl mor amlwg yng ngogledd Cymru, er eu bod wedi perfformio mewn sawl gŵyl arall, fel Wakestock, ac yn ymddangos yn Glastonbury am y tro cyntaf eleni.

Mae'r tri wedi sefydlu yn Llundain ar hyn o bryd, ond yn galw draw i'r Wyddgrug yn eithaf aml pan nad ydynt yn teithio. Maent wedi teithio llawer iawn dros y ddwy flynedd diwethaf - ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon - a sawl gwlad dramor.

Maent wedi chwarae gyda bandiau enwog fel y White Lies, Editors, Temper Trap a'r Passion Pit. Byddant yn cydweithio gyda Temper Trap a Passion Pit ar eu taith yn Awstralia yn fuan.

Recordiwyd y CD 8 trac 'A Balloon Called Moaning' gan y band rhwng Llundain a'r Wyddgrug ac mae wedi denu llawer o sylw a chefnogwyr ffyddlon ar draws y byd, ac yn awr wedi ei rhyddhau ar label Passion Pit yn America.

Mae darllenwyr Papur Fama yn falch iawn o lwyddiant dau o'r ardal ac yn dymuno'n dda i The Joy Formidable i'r dyfodol.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific