British Broadcasting Corporation

Help / Cymorth

Safleoedd BBC Lleol

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Awst 2010, 13:49 GMT 14:49 UK
Cofio'r cyfansoddwr William Mathias

Gan Rhiannon Mathias

William Mathias
Cyfansoddodd Mathias anthem ar gyfer priodas Tywysog a Thywysoges Cymru
Cydnabyddir fod William Mathias yn un o gerddorion mwyaf talentog ei genhedlaeth, a daeth yn un o'r cyfansoddwyr Cymreig cyntaf i gael sylw byd-eang.

Cafodd ei eni yn Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, ym mis Tachwedd 1934. Dechreuodd chwarae'r piano pan oedd yn dair oed, a chyfansoddi pan oedd yn bump.

Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac ennill ysgoloriaeth agored i astudio cyfansoddi yn Academi Frenhinol Cerdd, Llundain.

Mae ystod ei gyfansoddiadau'n eang dros ben ac yn cynnwys symffonïau, concerti, cantatau, a'r opera, 'The Servants', gyda libreto gan Iris Murdoch.

Oherwydd ei feistrolaeth lwyr o'r cyfrwng corawl cafodd nifer o gomisiynau proffil-uchel gan gynnwys yr anthem 'Let the People Praise Thee O God', a gyfansoddwyd ar gyfer priodas Tywysog a Thywysoges Cymru ym 1981.

Nid oedd yn gyfansoddwr tŵr ifori, ond yn ddyn carismatig gydag egni eithriadol, a brofodd sawl math o fywyd cerddorol - yn bennaf oll fel cyfansoddwr, ond hefyd fel arweinydd, pianydd, ac Athro Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor (1970-1988).

Cadeirlan Llanelwy
Cynhelir Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy

Un swydd a roddai bleser arbennig iddo oedd ei rôl fel cyfarwyddwr artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a sefydlwyd ganddo ym 1972.

Bu'n ystyried sawl lleoliad ar gyfer yr ŵyl, ond wedi darganfod cadeirlan hynafol Llanelwy a'i hacwstig eithriadol, gwyddai ei fod wedi taro ar y man delfrydol.

Wrth adeiladu'r gadeirlan odidog ganrifoedd yn ôl, go brin y dychmygodd y gweithwyr y byddai hon, un diwrnod, yn un o'r lleoliadau gorau yn Ewrop ar gyfer perfformiadau cerddorol.

O dan ei gyfarwyddyd (1972-1992) , daeth yr ŵyl yn enwog am berfformiadau cyffrous, safonau perfformio uchel, a hefyd am fod yn gosmopolitaidd, yn ogystal â chenedlaethol, ei natur.

Bob mis Medi, roedd Llanelwy'n gyrchfan pererindod gerddorol i artistiaid byd-enwog fel Murray Perahia, Sir Simon Rattle, Osian Ellis, John Lill a Nigel Kennedy.

Bu farw Mathias ar 29 Gorffennaf 1992 yn 57 mlwydd oed a chafodd ei gladdu yng nghadeirlan Llanelwy. Byddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 75 ar 1 Tachwedd 2009.

I nodi'r achlysur, cynhaliwyd nifer o ddathliadau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys perfformiadau o'i waith mewn amrywiol lefydd, yn eu mysg Galeri, Caernarfon a Venue Cymru, Llandudno.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific