British Broadcasting Corporation

Help / Cymorth
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 27 Awst 2010, 08:18 GMT 09:18 UK
Croeso 'nl i Billy'r Morlo

Sgerbwd Billy'r Morlo
Pan gafodd corff Billy ei archwilio, darganfuwyd mai benyw oedd Billy

Sgerbwd Billy'r Morlo
Gellir gweld sgerbwd Billy unwaith eto

Mae sgerbwd un o hoff gymeriadau Caerdydd yn elfen amlwg o arddangosfa newydd yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

Mae Billy'r Morlo, oedd yn byw mewn pwll ym Mharc Fictoria, i'w weld unwaith eto am y tro gyntaf mewn 20 mlynedd.

"Mae Billy yn enghraifft eiconig," meddai curadur yr amgueddfa, Peter Howlett.

"Mae'r Ganolfan Ddarganfod Clore yn cynnig lle gwych i arddangos Billy ac yn galluogi'r ymwelwyr ei weld 'o' unwaith eto ar ôl cymaint o flynyddoedd."

Cafodd y ganolfan newydd ei hadeiladu gyda chymorth rhodd o £160,000 gan Sefydliad Clore Duffield.

Mi fydd yna sawl adnodd o fewn y ganolfan fydd yn galluogi pobl i handlo'r gwrthrychau yn fwy nag oedd yn bosib yn y Galeri Ddarganfod Glaneley cynt.

Meddai Ceri Black, pennaeth addysg yr amgueddfa, fod Billy'r Morlo yn enghraifft ddiddorol iawn, o bersbectif hanesyddol.

"Mae gennym ni lot o bethau diddorol iawn yn ein storfeydd. Rydym yn ceisio sicrhau fod arddangosfeydd o fewn yr amgueddfa yn newid yn aml, fel bod yr ymwelwyr yn cael gwrthrychau gwahanol i'w mwynhau wrth ail-ymweld a ni.

"Bu lot o ddiddordeb yn y sgerbwd, ac yn y fideo am ei hanes, a gafodd ei greu gan blant ysgolion Caerdydd; mae'n stori sydd wir yn dal dychymyg y bobl."

Yn y 1990au oedd y tro diwethaf i sgerbwd Billy gael ei ddangos i'r cyhoedd.

"Mi gafodd o fywyd da," meddai'r canwr gwerin Frank Hennessey, sydd wedi sgwennu cân er cof am Billy.

Ceir cerflun o Billy'r Morlo mewn safle amlwg ym Mharc Fictoria
Ceir cerflun o Billy'r Morlo mewn safle amlwg ym Mharc Fictoria

"Cafodd ei ddal mewn rhwydi un o gychod porthladd Caerdydd, oddi ar arfordir yr Iwerddon yn 1912.

"Pan gafodd ei lanio ar y cei, 'doedd y capten a'r criw ddim yn sicr beth i wneud efo fo; nid oeddent am ei ladd o, ond wrth ei roi yn ôl yn y crombil byddai'n bwyta'r pysgod i gyd."

Felly penderfynodd y cyngor roi cartref i Billy yn y llyn bach ym Marc Fictoria, Treganna, sydd yn nawr yn bwll padlo i'r plant.

"Byddai pobl yn dod o bell i'w weld o," meddai Frank. "Byddent yn dod a lot o bethau gwahanol i'w fwydo.

"Mae 'na hyd yn oed straeon mwy ffansïol o adeg un o lifogydd mawr Caerdydd pan roedd y dyfroedd mor uchel, aethant dros ben ffens y parc. Llwyddodd Billy i nofio allan o'i bwll, ac yn ôl y sôn, ddal tram rhif saith i lawr i ben y pier a chreu hafoc i lawr yn siopau sglodion y cei!

"Cafodd ei ddal, ei roi yn ôl yn ei bwll a bu farw o galon oedd wedi torri ar ôl cael gymaint o hwyl."

Pan fu farw yn 1939, cafodd ei gorff ei archwilio gan arbenigwyr yr amgueddfa, gan ddarganfod ei fod 'o' yn 'hi'.

Y mae yna gerflun ger y pwll yn y parc er cof am Billy.




Yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific