YR IAITH GYMRAEG
Dangosodd Cyfrifiad 1991 fod bron i 20% o bobl Cymru (508,000 o bobl) yn siarad Cymraeg, a bod pethau wedi newid o ran dirywiad blaenorol yr iaith. Mae'r Gymraeg yn awr yn rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ac mae nifer cynyddol o rieni yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant. Mae yna sianel deledu Gymraeg, S4C, a gwasanaeth radio, BBC Radio Cymru. Yn yr un modd, mae'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru yn cynyddu eu defnydd o'r Gymraeg. Mae'n argoeli'n dda, felly, ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg.
|
THE WELSH LANGUAGE
The 1991 Census showed that nearly 20% of the population of Wales, (508,000 people), spoke Welsh, and that the previous decline in the use of the language has been reversed. Welsh is now part of the National Curriculum and an increasing number of children are taught through the medium of Welsh. There's a Welsh television channel, S4C, and BBC Radio Cymru provides a comprehensive radio service in Welsh. The public, private and voluntary sectors in Wales are increasing their use of Welsh. The future, then, looks promising for one of Europe's oldest languages.
|
Dewi Llwyd
Ymunodd Dewi Llwyd a'r BBC fel ymchwilydd i Radio Cymru nol ym 1980 ac ers deuddeng mlynedd bellach ef yw prif gyflwynydd Newyddion BBC Cymru. Dewi oedd gohebydd seneddol cyntaf y rhaglen yn San Steffan ac mae e wedi teithio dros y byd yn gohebu ar bedwar etholiad arlywyddol yn America, ar uwch-gynadleddau rhyngwladol, ar y newyn yn Affrica ac ar etholiad hanesyddol Nelson Mandela yn arlywydd De Affrica.
Mae Dewi hefyd yn cyflwyno'r rhaglen wleidyddol wythnosol 'MANIFFESTO' ac erbyn hyn mae e wedi cyflwyno pedair rhaglen etholiad arbennig. Ond mae'n debyg mai rhaglen canlyniadau'r Refferendwm ar ddatganoli fis Medi y llynedd fydd darllediad mwyaf cofiadwy ei yrfa hyd yn hyn. Cafodd Dewi ei fagu ym Mangor, sy'n gartre iddo o hyd, ac mae'n teithio'n wythnosol i Gaerdydd.
Dewi Llwyd joined the BBC as a news researcher for Welsh language radio back in 1980 and for the past twelve years he has been the main presenter of Newyddion on S4C. He was the channel's first political correspondent in Westminster and has travelled widely reporting on four American presidential elections, foreign summits, the famine in Africa and the historic election of Nelson Mandela as president of South Africa.
Also anchor of the weekly political programme 'MANIFFESTO', he has now presented four general election results programmes, but the referendum results programme will probably remain his most memorable broadcast. Dewi still lives in Bangor where he was brought up, and travels to Cardiff on a weekly basis.
|
Garry Owen
Brodor o Bontarddulais yw Garry Owen. Dechreuodd ar yrfa fel cyfreithiwr ond wedi gweithio i orsaf radio Sain Abertawe yn ystod gwyliau coleg fe gafodd ei ddenu fwy fwy at ddarlledu ac o fewn dim fe benderfynodd gymryd swydd lawn-amser gydag adran Gymraeg yr orsaf.
Daeth i weithio gyda BBC Cymru fel gohebydd newyddion radio a theledu yn ardal Abertawe gan gyflwyno Newyddion Saith o'r ddinas am gyfnod. Erbyn hyn mae Garry yn cyflwyno rhaglen newyddion boreol 'Y POST CYNTAF' ar Radio Cymru ac yn cyflwyno Newyddion teledu deirgwaith yr wythnos.
Born and bred in Pontarddulais, Garry Owen started his career as a lawyer, but after working for independent radio station Swansea Sound during college holidays he became more and more attracted to broadcasting.
After working full time for the station's Welsh language service he came to work for BBC Wales as a news reporter in the Swansea area for television and radio, presenting the nightly news programme Newyddion Saith from the city for a time. He now presents Radio Cymru's morning news programme 'Y POST CYNTAF' and presents Newyddion three nights a week.
|