![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
||||||
![]() | ||||||||||
![]() | ||||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | ||||||||
![]()
|
![]() |
Dydd Iau, 24 Awst, 2000, 09:59 GMT
Cynllwyn i ladd Lloyd George
![]() Mi roedd David Lloyd George "wedi creu anhapusrwydd yn y Dwyrain"
Mi roedd yna griw o "Dwrciaid penboeth" wedi bygwth lladd y cyn brif weinidog Lloyd George yn ôl adroddiad cyfrinachol gan yr heddlu.
Mi gafodd yr adroddiad ei ryddhau ddydd Iau o'r Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus. Yn ôl yr adroddiad â dyddiad Ionawr 1923 arno roedd dau ddyn wedi dangos eu bod yn awyddus i'w ladd yng Nghynhadledd y Dwyreinwyr yn Munich. Cafodd y ddau eu henwi fel Ali Bey a Haidar. Ond roedd y cynnig gwreiddiol yn y cyfarfod rhyfeddol yma hyd yn oed yn fwy eithafol. Lladd Saeson Roedd cynrychiolwyr o India o blaid "trais a lladd pob Sais ar un diwrnod". Ond doedd pawb ddim o blaid hyn, yn arbennig yr Eifftwyr. Mi dynnon nhw sylw i'r peryg o roi "cefnogaeth foesol i'r Saeson i beidio gadael Yr Aifft". Mi gafodd y cynnig yma ei wrthod yn ôl yr adroddiad sy'n seiliedig ar wybodaeth a gafodd y Gangen Arbennig o "darddiad Indiaidd". Yn hytrach mi roedd yna "gefnogaeth gyffredinol" i'r "cynnig i ladd" Lloyd George oedd yn "cynrychioli anhapusrwydd y Dwyrain i gyd". Mi gafodd cynnig hefyd ei dderbyn i ladd dau arall, gan gynnwys un Cyrnol Maxwell. Does dim yn yr adroddiad i nodi pwy oedd y Cyrnol. Mi fu i Gyrnol Carter, aelod blaenllaw o'r Gangen Arbennig, rybuddio'r Arolygydd Randall, swyddog gwarchod y prif weinidog: "Dylech fod yn ofalus iawn a chadw golwg am Dwrciaid neu Roegwyr o'r dosbarthiadau isaf sy'n ceisio mynd yn rhy agos at Mr Lloyd George." Dim hwn oedd yr unig gynllwyn i ladd Lloyd George. Mi yrrodd Syr Mansfield Cumming, cyn swyddog yn y Llynges a phennaeth cyntaf MI6, fanylion i'r Gangen Arbennig am gynllwyn cynharach i'w ladd.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |