![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
||||||
![]() | ||||||||||
![]() | ||||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | ||||||||
![]()
|
![]() |
Dydd Gwener, 18 Awst, 2000, 13:14 GMT
Gwahardd pêl-droediwr 15 oed am oes
![]() Mae'r dyfarnwr wedi rhoi bai ar sêr pêl-droed am roi esiampl wael
Mae bachgen 15 oed wedi cael ei wahardd rhag chwarae pêl-droed am oes oherwydd iddo daro dyfarnwr yn ei wyneb.
Mae hyn yn golygu na chaiff Nick Taylor o Aberaeron chwarae i'r un tîm yn y byd byth eto. Yn ôl y dyfarnwr Terry Lowrie, mae'r bai i gyd ar sêr Cynghrair Lloegr am osod enghraifft wael i bobol ifanc. Mi fu i Nick, oedd yn chwarae yn y gôl, daro Mr Lowrie'n ei wyneb ddwywaith ar ddiwedd gêm i rai dan 15 rhwng Aberaeon a Chastell Newydd Emlyn. Dadlau Rhedodd y bachgen ysgol 6 troedfedd i ganol y cae a dadlau ag o ynglýn â sut yr oedd wedi dyfarnu'r gêm. Mi darodd o'r tro cyntaf ar ei foch a'r ail dro yn ei geg.
Credir mai Nick ydy'r ieuengaf i gael ei wahardd am oes yng Nghymru. Roedd tîm Nick wedi colli 5-2 a thri o chwaraewyr wedi eu hel oddi ar y cae gan Mr Lowrie. "Mi ddylai chwaraewyr fel Roy Keane osod esiampl i chwaraewyr ifanc yn hytrach na chael ei yrru o'r cae," meddai Mr Lowrie. 'Afresymol' Yn ôl llys-dad Nick, John Evans, roedd hi'n "hollol wirion" ei fod wedi'i wahardd am oes. "Ddylai o fod ddim wedi taro'r dyfarnwr ond roedd y gosb yn afresymol," meddai. Yn ôl Malcolm Eaton o FA Canolbarth Cymru: "Rwyf wedi fy nychryn gan y cynnydd mewn trais. "Wnaeth y chwaraewr dan sylw ddim trafferthu i ddod i'r cyfarfod disgyblu a dydy o ddim wedi ymddiheuro. "Mae'n rhaid cael gwared â'r trais." Mae Nick wedi rhoi'r gorau i chwarae pêl-droed rwan ac wedi ymddiddori yn Tai-Kwando sy'n debyg i jiwdo. Mae o yn nhîm iau Cymru.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |