![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
![]() | |||||||
![]() | |||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||
|
![]() |
Dydd Iau, 27 Gorffenaf, 2000, 07:00 GMT
Ceisio atal cwn rhag lladd defaid
![]() Cafodd 8,000 o ddefaid eu lladd gan gwn y llynedd
Mae RSPCA Cymru'n cychwyn ymgyrch ddydd Iau i annog perchnogion cwn i ofalu nad ydy eu cwn yn amharu ar ddefaid.
Mae'r gymdeithas am i'r perchenogion ymddwyn yn gyfrifol er mwyn atal "miloedd o ymosodiadau di-angen gan gwn ar anifeiliaid fferm". Am y tro cyntaf erioed mae'r RSPCA wedi ymuno ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a'r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol i dynnu sylw at y broblem. Yn ôl yr RSPCA cafodd dros 8,000 o ddefaid ac wyn eu lladd neu eu hanafu gan gwn y llynedd - cynnydd o 8% ers 1998. Yn ôl un ffermwr o Drawsfynydd mi gollodd o 28 o wyn mewn un pnawn ac mi ddywedodd un arall bod haid o bedwar ci wedi lladd 37 o'i ddefaid.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |