![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
||||
![]() | ||||||||
![]() | ||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | ||||||
|
![]() |
Dydd Llun, 24 Gorffenaf, 2000, 09:16 GMT
Pan gurodd Llanelli'r Crysau Duon
![]() Tîm Rygbi Llanelli a gurrodd y Crysau Duon ar Barc y Strade yn 1972
Wrth ymweld â Llanelli bydd bobol y dref yn sïwr o'ch atgoffa o'r diwrnod pryd enillodd y Scarlets yn erbyn mawrion rygbi Seland Newydd, y Crysau Duon.
Mae rygbi yn destun siarad cyson yn nhre'r sosban ond mae buddugoliaeth y Cymry o 9-3 yn erbyn pencampwyr y byd yn dal yn achos balchder yn Llanelli.
Diwrnod diflas oedd Hydref 31, 1972, i ddechrau, ond buan iawn y trodd yn ddydd o fuddugoliaeth wrth i Carwyn James, a oedd newydd ddychwelyd ar ôl taith lwyddiannus yn hyfforddi'r Llewod yn Seland Newydd, arwain y clwb i fuddugoliaeth. Cafodd y capten, Delme Thomas, air gyda'r chwaraewyr yn unigol o flaen y gêm gan ddod â dagrau i lygaid y maswr Phil Bennett. Bu'n rhaid i'r heddlu hebrwng y tîm i'r Strade, lle'r oedd yna dorf o 20,000 yn aros i weld y gêm. Fe gafwyd dechrau dramatig i'r gêm. Yn y trydydd munud fe darodd pêl Bennett y bar wrth iddo geisio cael cic gosb. Ond wrth i'r bêl daro'r bar fe laniodd yn nwylo Lindsey Collong o Seland Newydd. Wrth iddo geisio cicio'r bêl yn glir, cafodd ei daclo gan Roy Bergiers a lwyddodd i gael unig gais y gêm. Cicio i fuddugoliaeth Llwyddodd Bennett i drosi cyn i Andy Hill lwyddo gyda cic gosb. Gydag wyth munud o'r gêm yn weddill llwyddodd Seland Newydd i gael eu pwyntiau cyntaf ac olaf. Cafodd Thomas - sy'n cael ei urddo i'r Orsedd eleni yn Llanelli - ei godi gan y dorf gyda gwaed, chwys a dagrau yn llifo lawr ei ruddiau. Daeth "Pwy gurodd y Crysau Duon?" yn un o'r cwestiynau rhethregol mewn fersiwn answyddogol o anthem y dref, "Sosban Fach." Mae'r gân ei hun yn deyrnged i'r amrywiaeth o gynnych metal a oedd yn cael eu cynhyrchu yn y gweithfeydd lleol. Roedd nifer o chwaraewyr y tîm yn ystod canol yr 20fed ganrif yn gweithio yn y gweithfeydd cyn loncian i sesiynau ymarfer ar y Strade.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |