| Dyma safle: Newyddion | |||||||
|
Dydd Sadwrn, 15 Gorffenaf, 2000, 13:40 GMT
Gwobr ryngwladol i Gwynfor
![]() Mi fydd Dr Gwynfor Evans yn derbyn y wobr am ei gyfraniad i fywyd Cymru
Mae Gwynfor Evans, cyn lywydd ac aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru, i dderbyn gwobr bwysig gan bwyllgor rhyngwladol sy'n cynrychioli Cymry alltud.
Cafodd Dr Evans, sydd rwan yn ei 80au, ei enwebu am ei gyfraniad i fywyd Cymru. Mi gafodd o'i ethol i Dư'r Cyffredin dros etholaeth Caerfyrddin yn 1966. Streic newyn Yn 1980 mi aeth ar streic newyn er mwyn rhoi pwysau ar y llywodraeth Geidwadol i gadw at eu haddewid i sefydlu sianel deledu Gymraeg. Daeth S4C i fodolaeth yn 1981. Mi fydd y wobr - Anrhydedd Cymry'r Cyfanfyd - yn cael ei chyflwyno i Dr Evans yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst. Mae darn arbennig wedi cael ei gomisiynnu gan grefftwr amlwg Cymreig i'w gyflwyno i Dr Evans. Cafodd miloedd o lythyrau eu gyrru i Gymry alltud dros y misoedd diwethaf yn eu gwahodd i ysgrifennu i gefnogi cyflwyno'r wobr i Dr Evans.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||