| Dyma safle: Newyddion | |||||||
|
Dydd Llun, 10 Gorffenaf, 2000, 15:32 GMT
Cymru ar ei hôl hi yn chwyldro'r we ![]() Yn y rhan fwya' o ranbarthau a gwledydd, mae defnyddio'r we wedi dyblu ers y llynedd
Mae Cymru ar ei hôl hi yn chwyldro'r we, yn ôl ffigurau swyddogol newydd. Dengys ffigurau diweddara' yr ONS, Swyddfa Ystadegau Prydain, fod cartrefi 25% o bobol gwledydd Prydain ar y we. Ond tra bod 25% o bobol Llundain ar y we, y ffigur yng Nghymru yw 15%. Roedd ffigurau Cymru'n well na rhai Gogledd Iwerddon, 11%, yr Alban, 14%, a Gogledd-Ddwyrain Lloegr, 14%, ond yn waeth na Gogledd-Orllewin Lloegr, 18%, East Anglia, 22%, De-Ddwyrain Lloegr, 24%, a Llundain, 25%. Dyblu Serch hynny, yn y rhan fwya' o ranbarthau a gwledydd, mae defnyddio'r we wedi dyblu ers y llynedd. Dengys yr ONS fod teuluoedd sy'n cynnwys plant yn fwy tebyg o fynd ar y we. Yn ystod tri mis cynta' 2000 roedd tua 6.5m o deuluoedd ar y we. Cyrraedd "Mae nifer o gynlluniau ar y gweill i sicrhau fod y we'n cyrraedd mwy o bobol," meddai llefarydd Swyddfa'r Cabinet. Erbyn y flwyddyn nesa', bydd 700 canolfan Technoleg Gwybodaeth yn cael eu hagor, meddai. A bydd y llywodraeth yn anelu at werthu neu osod ar brydles 100,000 o gyfrifiaduron sy' wedi eu hatgyweirio. Erbyn 2002 bydd pob ysgol a llyfrgell yng ngwledydd Prydain ar y we, meddai.
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||