![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||||
![]() | |||||||||
![]() | |||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||||
![]()
|
![]() |
Dydd Iau, 6 Gorffenaf, 2000, 08:25 GMT
Datblygiad anferth i dref Caernarfon ![]() Mae'r datblygwyr yn gobeithio manteisio ar yr ymwelwyr sy'n ymweld ā Chastell Caernarfon
Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi caniatād cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad anferth yn Noc Fictoria, Caernarfon. Mi fydd yna siopau, caffis, tai bwyta, hotel ynghyd ā chanolfan ymwelwyr yno. Mi fydd y datblygiad ar safle hen storfa betrol gafodd ei glanhau a chlirio'r llygredd oddi yno gan y cyngor. Yn ōl y datblygwyr mi fydd y cynllun yn creu hyd at 200 o swyddi ac yn dod ag £20m ychwanegol i'r dref. Mi fydd y swyddogion cynllunio'n parhau eu trafodaethau efo'r datblygwyr WJ Developments o Fiwmaris. Dros y blynyddoedd mae miliynnau o bunnau wedi cael eu gwario ar geisio adfywio'r dref ac o bosib hwn yw'r cynllun mwyaf. Er hynny, mae rhai siopwyr yn bryderus y bydd y cynllun yma'n tynnu ymwelwyr o ganol y dref.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |