Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Mawrth, 4 Gorffenaf, 2000, 15:33 GMT
Bollywood ar lannau'r Fenai
Bollywood
Mae diwydiant ffilm India'n cynhyrchu 600 o ffilmiau bob blwyddyn

Mae rhan o ogledd Cymru wedi cael ei thrawsnewid i fod yn rhan o India.

Mae rhai o brif actorion diwydiant ffilmiau'r India wedi dod i Blas Newydd, Ynys Mn - cartref Ardalydd Mn a gafodd ei adeiladu yn y 18fed ganrif.

Mae cwmni New Punjab Tours yn ffilmio golygfeydd ar gyfer ffilm gyffrous ddoniol I Give You My Word, efo'r sr Sunil Shetty a Raveena Tandan.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ydy perchennog y plasdy ar lannau'r Fenai sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer "golygfeydd breuddwydiol" i'r ffilm.

Mae'r diwydiant ffilm Indiaidd yn defnyddio lleoliadau Ewropeaidd yn aml ond dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ddod i Gymru.

Yn l Paul Carr-Griffin, rheolwr eiddo'r plasdy, mae yna rhywfaint o newidiadau wedi'i gwneud ar gyfer y ffilmio.



Mi fydd hyn yn tynnu sylw at ogledd Cymru fel lle deniadol ar gyfer ymwelwyr

Hugh Edwin Jones
"Mi fyddai'r rhai sy'n dod yma'n aml yn sylwi ar y newidiadau," meddai.

"Fel arfer mae gennyn ni gerddorion clasurol neu jazz ond ar hyn o bryd cerddoriaeth Indiaidd sydd i'w glywed, sydd rhywfaint yn wahanol.

"Hefyd mae'r criw wedi dod 'u bwyd eu hunain, ac mae yna arogl cyri drwy'r lle. Mae'n wahanol ond yn neis iawn."

Mae Plas Newydd wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen ar gyfer ffilmio - gan gwmnau Prydeinig ac Americanaidd.

"Mae hwn yn brofiad gwahanol," yn l Mr Carr-Griffin.

"Efo'r cwmnau Prydeinig ac Americanaidd mi ryden ni'n gwybod fisoedd o flaen llaw be maen nhw am ei wneud.


llwyfan
Mae Andrew Lloyd Webber iyn gwnedu sioe gerdd "Bollywood"
"Ond mae'r criw yma'n dilyn eu mympwy.

"Os ydyn nhw'n gweld rhywbeth maen nhw am ei gynnwys, maen nhw'n mynd ati i'w ffilmio."

Yn l Hugh Edwin Jones o Gomisiwn Ffilm Gogledd Cymru, bu Awdurdod Twristiaeth Prydain yn tynnu sylw'r diwydiant ffilm yn India at atyniadau Prydain ar gyfer ffilmio.

Gan fod yna gymaint o alw am y sr Indiaidd, meddai Mr Jones, maen nhw weithiau'n gweithio ar 10 ffilm ar y tro, a'r criwiau'n teithio o gwmpas er mwyn eu ffitio i mewn ar gyfer y ffilmio.

Gan fod Sunil Shetty eisoes yn Ewrop, mi roedd ffilmio yng ngogledd Cymru'n gwneud synnwyr.

Mae ffilmiau Bollywood yn boblogaidd iawn nid yn unig yn India ond hefyd ymysg cymunedau Indiaidd drwy'r byd gyda'r gymuned ym Mhrydain yr ail fwyaf.

"Mi fydd hyn yn tynnu sylw at ogledd Cymru fel lle deniadol ar gyfer ymwelwyr," meddai Hugh Edwin Jones.

Mae 600 o ffilmiau Indiaidd yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn, gwerth tua 0.75bn - sy'n fwy na'r hyn sy'n cael ei gynhyrchu yn Hollywood.

Mi gafodd yr Ardalydd Mn gwreiddiol Blas Newydd yn anrheg gan Ddug Wellington wedi iddo golli'i goes ym Mrwydr Waterloo.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.