![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||
![]() | |||||||
![]() | |||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||
|
![]() |
Dydd Sadwrn, 1 Gorffenaf, 2000, 10:13 GMT
Gorsedd yn urddo cawr byd rygbi ![]() Mae Delme'n cael ei gofio fel un o flaenwyr gorau Cymru yn yr ail reng
Bydd Gorsedd y Beirdd yn anrhydeddu tri arwr o'r byd chwaraeon yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. Cyn-chwaraewyr rygbi yw dau, Delme Thomas, capten Llanelli pan drechon nhw'r Crysau Duon, a Terry Davies a enillodd un ar hugain cap i Gymru ac a chwaraeodd i'r Llewod y ystod eu taith i Awstralia a Seland Newydd yn 1959. Cyn-reslwr o fri Y trydydd yw Orig Williams, cyn-reslwr o fri. Daw'r manylion wrth i seremoni gael ei chynnal yn Ninbych i gyhoeddi taw yn y dref honno y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesa'. Ymhlith y rhai eraill sy'n cael eu hurddo mae Cynog Dafis, AC, Yr Athro Stuart Cole, Myfanwy Bajaj o Ontario, Clydwyn ap Aeron Jones o'r Wladfa, a Dewi Roger Price, Trefnydd Eisteddfod y Glowyr. Mae Delme Thomas yn frodor o Fancyfelin, Caerfyrddin. Llewod Daeth yn un o chwaraewyr enwoca' Cymru yn y chwedegau a'r saithdegau. Yn 1966 cafodd ei ddewis i deithio i Awstralia a Seland Newydd gyda'r Llewod, cyn ennill ei gap cynta' i Gymru, a chwaraeodd mewn dwy gêm brawf yn erbyn Seland Newydd. Roedd yn aelod o dîm Llanelli a drechodd Awstralia o un pwynt ar ddeg i ddim. Yn nhymor 1966-67 cafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru ac enillodd bum cap ar hugain. De Affrica Y tymor canlynol teithiodd gyda'r Llewod i Dde Affrica lle chwaraeodd mewn dwy gêm brawf. Yn nhymor 1970-71 roedd yn aelod o dîm y Llewod ar y daith enwog i Awstralia a Seland Newydd. Dyna pryd y cafwyd y buddugoliaethau mawr yn y gêmau prawf o dan hyffordddiant Carwyn James, un o arwyr Delme. Chwaraeodd mewn dwy gêm brawf. Gorau Cafodd Delme ei ddewis yn gapten tîm Llanelli yn nhymor canmlwyddiant y clwb 1972-73 ac o dan hyfforddiant Carwyn curon nhw'r Crysau Duon o naw pwynt i dri. Cafodd Delme ei ddewis yn gapten tîm Cymru yn yr un tymor. Mae Delme'n cael ei gofio fel un o flaenwyr gorau Cymru yn yr ail reng.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |