![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||||
![]() | |||||||||
![]() | |||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | |||||||
![]()
|
![]() |
Dydd Mawrth, 18 Ebrill, 2000, 16:22 GMT
Seren rygbi wedi gwrthod twyllo ![]() Mark Ring: Gwrthododd gynnig o £30,000
Mae'r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Mark Ring yn cyfadde' iddo gael cynnig £30,000 i ddylanwadu ar ganlyniad gêm Pencampwriaeth Pum Gwlad ddeng mlynedd yn ôl. Dywedodd Ring fod ffrind wedi cysylltu â fe cyn y gêm rhwng Cymru a'r Iwerddon yn Landsdowne Road, Dulyn, gan ofyn iddo ddylanwadu ar ganlyniad y gêm. Dywedodd Ring wrth y BBC na dderbyniodd e'r arian ac na fyddai fyth yn betio ar gêm yr oedd yn chwarae ynddi. Yn y cyfamser, mae Undeb Rygbi Cymru'n ystyried gwahardd chwaraewyr sy'n betio ar gêmau wedi i chwaraewr rhyngwladol gyfadde' iddo osod bet yn erbyn Cymru. Roedd Neil Boobyer, sy'n chwarae i Lanelli, wedi betio arian ar Gymru i golli yn erbyn Ffrainc yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Bu'n chwarae i Dîm A Cymru noson cyn y gêm ac yn hyfforddi gyda'r tîm cynta'. Roedd e wedi cael ar ddeall nad oedd dim o'i le yn hynny. Wnaeth e hefyd roi arian ar Loegr i guro Cymru, gêm nad oedd ganddo ddim byd i'w wneud â hi. Torri rheolau? Mae Boobyer wedi ennill saith cap i Gymru ac roedd yn aelod o'r garfan yn ystod Cwpan y Byd y llynedd. Ond nawr mae e wedi cyfaddef ei fod e ac eraill yn gamblo cannoedd o bunnau ar gêmau. Mae chwaraewyr eraill hefyd yn rhoi arian ar gêmau rygbi, meddai, a dydyn nhw chwaith ddim yn credu eu bod yn gwneud dim o'i le. Dim betio Yn Awstralia a Seland Newydd dyw chwaraewyr ddim yn cael betio ar gêmau rygbi. A dyw chwaraewyr pêl-droed Prydain chwaith ddim yn cael betio arian ar gêmau pêl-droed. Dywedodd Damien Hopley o'r Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi Proffesiynol eu bod nhw wrthi'n llunio cytundebau ar hyn o bryd fydd yn gwahardd betio ar gêmau.
|
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |