![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
||||||
![]() | ||||||||||
![]() | ||||||||||
![]() |
![]() |
Dyma safle: Newyddion | ||||||||
![]()
|
![]() |
Dydd Gwener, 17 Mawrth, 2000, 18:25 GMT
Aelod seneddol yn beirniadu Adroddiad Waterhouse ![]() Mae'r Senedd yn trafod yr adroddiad
Mae aelod seneddol wedi beirniadu Adroddiad Waterhouse. Dywedodd Martyn Jones, AS De Clwyd, mewn dadl yn y Senedd ddydd Gwener fod yr adroddiad yn ddiffygiol oherwydd nid oedd yn enwi gwleidyddion, barnwyr, heddlu na dynion busnes amlwg a gafodd eu cyhuddo yn ystod yr ymchwiliad. Fis diwethaf cyhoeddodd Syr Ronald Waterhouse ei adroddiad hir-ddisgwyliedig i'r honiadau o gamdrin mewn cartrefi plant yng Nghlwyd a Gwynedd. Dywedodd Mr Jones fod ganddo restr o 45 o bobol oedd yn cael eu hamau o gamdrin. Ar un adeg roedd disgwyl y byddai e'n enwi'r bobol yn ystod y drafodaeth yn y Senedd ddydd Gwener.
Dyw e ddim yn teimlo fod yr adroddiad wedi ymchwilio yn llawn i'r honiadau yn erbyn rhai sy'n cael eu henwi. Y Gweinidog Iechyd, John Hutton, oedd yn agor y ddadl ddydd Gwener. Ammlinellodd fesurau'r llywodraeth ar ôl Adroddiad Waterhouse, gan gynnwys sefydlu Comisiynydd Plant. |
![]() |
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
![]() Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
![]() |
![]() |
![]() |