Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru 
Clecs Cymru 
BBC Cymru (teledu) 
BBC Radio Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese

Pwy 'di Pwy: Gwynfor Evans

Gwynfor Evans Gwynfor Evans - cyn Aelod Seneddol


Ganwyd yn y Barri yn 1912 ac mae'n byw bellach yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin.

Mae'n briod a chanddo saith o blant a nifer o wyrion a wyresau.

Addysg
Prifysgol Cymru Aberystwyth a Choleg Ieuan Sant, Rhydychen.

Gyrfa
Er ei fod wedi graddio a'i hyfforddi fel cyfreithiwr, gweithio fel garddwr masnachol a wnaeth yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin cyn mynd yn Aelod Seneddol.

Ysgrifennydd Heddychwyr Cymru 1939 - 1945


Gwynfor Evans Ymgyrchydd dros achosion cenedlaethol
Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg 1954

Cynghorydd Sir Gaerfyrddin 1949 - 1974

Un o wleidyddion amlycaf hanes Plaid Cymru a'r aelod cyntaf i ennill etholiad, yng Nghaerfyrddin 1966.

Collodd y sedd yn 1970, ond ei hennill eto yn 1974 -1979.

Bu'n llywydd Plaid Cymru 1945 - 1981 ac er 1982 yn Llywydd Anrhydeddus.

Yn ystod 1970au bu'n ymgyrchydd amlwg dros gael sianel deledu Gymraeg ac yn 1980 cyhoeddodd ei fod yn barod i ymprydio hyd at farwolaeth os na fyddai'r llywodraeth yn barod i ddarparu pedwaredd sianel.


Deoliad o gyhoeddiadau Gwynfor Evans
Plaid Cymru and Wales (1950)
Rhagom i Ryddid (1964)
Aros Mae (1971)
Wales Can Win (1973)
Land of My Fathers (1974)
A National Future for Wales (1975)
Diwedd Prydeindod (1981)
Seiri Cenedl (1986)
Welsh Nation Builders (1987)
Pe Bai Cymru'n Rhydd (1989)
Fighting for Wales (1991)
Heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru (1992)
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd bu'n ffigwr amlwg yn natblygiad y Blaid ac mae ei ddylanwad fel cenedlaetholwr a gwleidydd yn parhau.

Mae'n uchel ei barch hyd yn oed ymhlith gwleidyddion pleidiau eraill.

Cyhoeddodd Pennar Davies yn 1976 gyfrol ar ei waith Gwynfor Evans - golwg ar ei waith a'i feddwl, ac yn 1982 cyhoeddwyd cyfrol o'i hunangofiant, Bywyd Cymro yng Nghyfres y Cewri dan olygyddiaeth Manon Rhys.

Yn 1996 ymddangosodd y gyfrol yn Saesneg, For the Sake of Wales.


Cysylltiadau Rhyngrwyd:

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.
Mae cysylltiadau i straeon Newyddion eraill o Gymru ar waelod y dudalen hon.


Links to more Newyddion stories