|
||||||
| Dyma safle: Newyddion | |||||||||||||||
![]()
|
Dydd Sul, 30 Mawrth, 2003, 15:31 GMT
Ymosodiadau parhaus ar Baghdad
Y prif darged oedd unedau'r Gwarchodlu Gweriniaethol ac adeiladau'r llywodraeth
Mae mwy o ffrwydradau wedi ysgwyd dinas Baghdad ddydd Sul wedi un o'r cyrchoedd awyr mwyaf dwys ers dechrau'r rhyfel.
Dywed gohebwyr fod y cyrchoedd yn digwydd ddydd a nos erbyn hyn, gan fynd yn fwy dwys bob tro. Clywyd ffrwydradau enfawr ar gyrion Baghdad M 1600 amser lleol (1300 GMT) ddydd Sul wrth i America geisio targedu'r Gwarchodlu Gweriniaethol ac adeiladau'r llywodraeth. Mae ffrwydradau enfawr wedi ysgwyd y brifddinas yn barhaus er nos Sadwrn. Fe glywyd dros ddwsin o ffrwydradau i'r de ac i'r dwyrain o Baghdad ddydd Sul, yn ôl asiantaeth newyddion Reuters. Ysgwyd Roedd yr adeiladau yn ysgwyd yn barhaus a phelen dân oren yn goleuo'r awyr. Dywedodd swyddogion milwrol America eu bod wedi gollwng ffrwydron ar brif wersyll milwrol y parafilwyr sydd yn deyrngar i Saddam Hussein ac ar balas y credir ei fod yn eiddo i fab yr arlywydd, sef Qusay.
Fe fu'r ymosodiad cyntaf ddydd Sadwrn wedi i filwr, oedd yn ymddangos fel gyrrwr tacsi, danio ffrwydrad yn ei gerbyd gan ei ladd ei hun a phedwar milwr Americanaidd, ar gyrion tref Najaf. Dywedodd un o ohebyddion y BBC sydd yn Baghdad fod dwy ymgyrch awyr yn digwydd ddydd Sul. Mae awyrennau'r B52 yn gollwng llu o ffrwydron ar safleoedd y Gwarchodlu Gweriniaethol ar gyrion Baghdad ac wedyn mae cyrch awyr dros y ddinas ei hun gyda thaflegrau a ffrwydron yn cael eu defnyddio. Mewn datblygiad arall dywedodd llywodraeth Prydain fod pennaeth amddiffynfeydd awyr Baghdad wedi ei ddiswyddo gan fod taflegrau Irac wedi bod yn disgyn ar y brif ddinas. Ymchwilio Yn ôl rhai arbenigwyr fe allai hyn fod yn un eglurhad posib dros y ffrwydradau ym marchnadoedd Baghdad ddydd Mercher a dydd Gwener pan fu dwsinau o bobol farw. Ond nid yw Irac wedi cadarnhau'r adroddiad. Yn y cyfamser mae lluoedd y glymblaid yn parhau i ymchwilio i geisio darganfod ai eu taflegrau nhw oedd yn gyfrifol. Mae swyddogion milwrol America wedi dweud na fyddan nhw'n newid eu cynlluniau o ganlyniad i'r ymosodiad terfysgol ddydd Sadwrn. Meddai'r Cadfridog Richard Myers "Rydw i'n credu y gallwn ni addasu'n tactegau i wrthsefyll y bygythiad o ymosodiadau terfysgol." Dywedodd y byddai lluoedd y glymblaid yn dymchwel Saddam Hussein yn y diwedd, ond rhybuddiodd fod y brwydro anodd "o'n blaenau o hyd". Wedi'r ymosodiad ddydd Sadwrn meddai dirprwy arlywydd Irac, Taha Yassin Ramadan, "Dim ond y dechrau yw hyn. "Dyma fydd ein polisi milwrol. Fe fyddwn ni'm defnyddio unrhyw gyfrwng i ladd ein gelyn yn ein tir ac fe fyddwn ni'n dilyn y gelyn i'w dir yntau." Mewn datblygiadau eraill:
|
Cysylltiadau Rhyngrwyd:
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol. |
|||||||||||||