Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic


Ceri James, Canolfan ymchwil dysgu ieithoedd
"Cyfathreu yn gymhwyster pwysig mewn busnes"
 real 28k

Dydd Iau, 13 Mawrth, 2003, 11:17 GMT
Prinder ieithoedd tramor yng Nghymru
dysgu ieithoedd tramor
Mae angen dysgu plant yn ifanc i siarad ieithoedd tramor
Caiff plant ysgol yng Nghymru eu hannog i ddysgu iaith dramor, wedi i nifer o ysgolion weld gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n dilyn y cyrsiau.

Yng Nghymru dim ond 37% o blant sy'n dilyn cwrs iaith dramor hyd lefel TGAU tra bod 95% yn dilyn cwrs yn Lloegr.

Huw Edwards, cyflwynydd newyddion 10 o'r gloch y BBC
Huw Edwards: Hybu dysgu iaith
Yn ôl ystadegau a gafodd ei rhyddhau ddydd Iau mae 19% o gwmnïau'n colli busnes yng Nghymru oherwydd eu bod yn brin o sgiliau iaith neu sgiliau diwylliannol.

Mae 42% yn wynebu rhwystrau ieithyddol a diwylliannol wrth fasnachu dramor a dim ond 8.6% sydd â strategaeth ar gyfer ymdrin â materion ieithyddol.

Dyma brif ganfyddiadau'r archwiliad a gwblhawyd yn ddiweddar gan y Corff Hyfforddi Cenedlaethol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mesur y bwlch

Holwyd dros 5,000 o gwmnïau i ganfod eu hanghenion ieithyddol a diwylliannol, ac ymgynghorwyd yn fanwl gydag amrywiaeth eang o fudiadau i fesur gallu'r wlad i gwrdd â'r gofynion hynny.

Mae'r archwiliad yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i ganfod a mesur y bwlch sgiliau ac i edrych eto ar beth sydd ei angen ar gwmnïau a'r hyn maent yn ei ddisgwyl gan ddarparwyr addysg, hyfforddiant a gwasanaethau yn ystod y blynyddoedd nesaf.

baneri
Mae busnes angen ieithoedd tramor i fasnachu yn Ewrop
Mae'r ymgyrch i ddenu bobol i ddysgu iaith dramor yn derbyn cefnogaeth gan Huw Edwards, cyflwynydd Newyddion 10 y BBC, sydd wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg.

Fe fydd Mr Edwards, a gafodd ei fagu yn ardal Llanelli, yn ymddangos mewn ffilm fydd yn cael ei lansio ddydd Iau i hybu disgyblion i ddysgu iaith a bod 'na gyfleoedd gwych ar gael gyda ieithoedd.

Caiff y fidio ei lansio yn Ysgol Maes-yr-Yrfa, Llanelli ac fe fydd y newyddiadurwr Ben Thomas a'r gyflwynwraig Heledd Cynwal yno i ateb cwestiynau gan ddisgyblion.

Mae'r ymchwiliad yn rhoi darlun llawn iawn o'r ddarpariaeth iaith sydd eisoes yn bodoli mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau Cymru, a beth yw natur a chwmpas gwasanaethau masnachol mewn ieithoedd.

Mae'r ystadegau a gasglwyd yn sylfaen y gall Llywodraeth y Cynulliad eu defnyddio i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gyda phartneriaid allweddol.

Agenda

Mae'r Corff Hyfforddi wedi cynnig agenda pum pwynt sy'n cynnwys:

  • gwella gwybodaeth o'r farchnad a chreu agwedd genedlaethol; hyrwyddo rhwydweithio a sefydlu cymorth ymarferol.

    Dywedodd Andrew Davies AC, Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd: "Corff sy'n canolbwyntio ar fusnesau yw Rhwydwaith Ieithoedd Cymru a'i nod yw helpu cwmnïau i siarad iaith eu cwsmeriaid.

    "Rwy'n croesawu sefydlu'r rhwydwaith hwn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i helpu cwmnïau Cymru i wneud mwy o fusnes rhyngwladol.

    "Bydd gwaith Rhwydwaith Ieithoedd Cymru'n help i gefnogi'r amcan hwnnw."

  • Cysylltiadau Rhyngrwyd:


    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.