Europe South Asia Asia Pacific Americas Middle East Africa BBC Homepage World Service Education
BBCi CATEGORIES   TV   RADIO   COMMUNICATE   WHERE I LIVE   INDEX    SEARCH 

Chwiliwch yn Gymraeg


 Dyma safle:  Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd
 

BBC News

BBC Sport

BBC Weather

Chinese Russian Spanish Arabic


Adroddiad Alun Thoams, BBC Cymru
"Cafodd ei gadw yn y ddalfa"
 real 28k

Adroddiad Alun Thomas BBC Cymru
"Roedd yr oriel gyhoeddus yn llawn"
 real 56k

Dydd Gwener, 7 Mawrth, 2003, 07:36 GMT
Lynette White: Dyn yn y llys
Cafodd Lynette White ei lladd 14 mlynedd yn l yng Nghaerdydd
Y llofruddiaeth: Uwchben siop fetio yn Nhrebiwt, Caerdydd
Mae swyddog diogelwch o Lanharan, Rhondda Cynon Taf, wedi ymddangos o flaen Ynadon Caerdydd ddydd Gwener wedi ei gyhuddo o lofruddio Lynette White.

Roedd Jeffrey Gaffoor, 37 oed, yn y llys am ddwy funud yn unig, wedi ei gyhuddo o lofruddio Lynette White yn Nhebiwt, Caerdydd, ar Ddydd San Ffolant 15 mlynedd yn l.

Cadarnhaodd ei enw a'i gyfeiriad a chafodd ei gadw yn y ddalfa tan 18 Mawrth pan fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd.

Cafodd Ms White, 20 oed, oedd yn butain, ei thrywanu i farwolaeth yn ardal dociau Caerdydd yn 1998.

Bu farw Lynette White yn 1988
Lynette White: Fe'i lladdwyd yn 1988
Cafodd Gafoor ei arestio'r wythnos ddiwethaf ond cafodd driniaeth yn yr ysbyty cyn cael ei ryddhau i ofal yr heddlu ddydd Mercher.

Bu'r heddlu'n chwilio t yn Llanharan yn gynt yn y mis.

Roedd ymchwiliad Lynette White yn un o'r rhai mwya dadleuol yn hanes Heddlu De Cymru.

Ar y dechrau, rhyddhaodd yr heddlu luniau cyfrifiadurol o ddau ddyn gwyn oedd yn cael eu hamau.

Yn dilyn ymchwiliad enfawr, cafwyd Yusef Abdullahi, Steve Miller a Tony Paris yn euog yn 1990 o'i llofruddio.

Cafodd y tri eu carcharu am oes.

Ond ddwy flynedd yn ddiweddarach rhyddhaodd y Llys Apl y tri.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.